Awdur, diwinydd ac athronydd o Loegr oedd Richard Baxter (12 Tachwedd 1615 – 8 Rhagfyr 1691).[1]
Cafodd ei eni yn Rowton, Swydd Amwythig yn 1615 a bu farw yn Llundain. Daeth yn un o arweinwyr mwyaf dylanwadol yr Anghydffurfwyr, gan dreulio amser yn y carchar.