Aelod o deulu Tuduriaid Penmynydd ac un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw ei gefnder Owain Glyn Dŵr oedd Rhys ap Tudur (bu farw 1412)
Roedd Rhys yn fab i Tudur Fychan, arglwydd Penmynydd. Cofnodir iddo fod yng ngwasanaeth Rhisiart II, brenin Lloegr. Ymunodd â gwrthryfel Glyn Dŵr, ac ar ddydd Gwener y Groglith 1401 cipiodd ef a'i frawd Gwilym ap Tudur gastell Conwy.
Yn 1412, cymerwyd ef a nifer o gefnogwyr eraill Owain Glyn Dŵr yn garcharorion tra ar gyrch yn y gororau. Dienyddiwyd ef yng Nghaer.
Llinach