Rhyngwladoli a lleoleiddio

Rhyngwladoli a lleoleiddio yw'r broses o addasu cynnyrch fel cyhoeddiadau, caledwedd neu feddalwedd ar gyfer cenhedloedd a diwylliannau eraill. Gall hyn fod mewn sawl elfen:

  • Iaith
    • Testun cyfrifiadurol amgodedig
      • Gwyddorau/sgriptiau; sustemau rhifeg gwahanol; sgriptiau chwith-i'r-dde vs. sgriptiau dde-i'r-chwith. Mae sustemau diweddar yn defnyddio safon Unicode i ddatrys y problemau hyn gyda llythrennau amgodedig.
      • Gwahaniaethau sillafu ar gyfer gwledydd gwahanol lle siaradir yr un iaith, e.e. lleoleiddio (Saesneg Americanaidd) vs. lleoleiddio (Saesneg Prydain)
    • Dehongliad delweddol o destun (deunydd print, delweddau ar-lein sy'n cynnwys testun)
    • Llafar (Sain)
    • Is-deitlo ffilm neu fideo
  • Fformat dyddiad/amser, gan gynnwys calendrau gwahanol
  • Fformatio rhifau (pwyntiau degol, lleoliad gwahanwyr, y nod a ddefnyddir fel gwahanwr)
  • Parth amser (UTC mewn amgylchedd wedi'i ryngwladoli)
  • Arian cyfred
  • Delweddau a lliw: mater o eglurder ac addasrwydd diwylliannol
  • Enwau a theitlau
  • Rhifau wedi'u dynodi gan lywodraeth (rhif Yswiriant Gwladol yn y Deyrnas Unedig, rhif Social Security yn yr Unol Daleithiau) a phasbortau
  • Rhifau ffôn, cyfeiriadau a chodau post rhyngwladol
  • Pwysau a mesuriadau
  • Maint papur
  • Unrhyw elfen arall o gynnyrch neu wasanaeth sy'n cael ei reoleiddio gan reoliadau a deddfau

Y gwahaniaeth rhwng rhyngwladoli a lleoleiddio yw mai addasu cynnyrch fel bod modd ei ddefnyddio yn unrhyw le yw rhyngwladoli, tra bod lleoleiddio yn golygu ei addasu fel bod modd ei ddefnyddio mewn lleoliad, iaith neu ddiwylliant penodol.

Dolenni

Erthygl 'Lleoleiddio' ar wefan Canolfan Bedwyr