Defnyddir y term Rhyfeloedd y Tair Teyrnas i gyfeirio at gyfres o ryfeloedd rhwng 1639 a 1651 yn nheyrnasoedd yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn nheyrnas Lloger ar y pryd, o ganlyniad i Ddeddfau Uno1536 a 1543. Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin.
Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon. Bu nifer o ryfeoledd eraill tebyg yn Ewrop yn y cyfnod yma; y Fronde yn Ffrainc a gwrthryfeloedd Yr Iseldiroedd, Catalwnia a Phortiwgal yn erbyn llywodraeth Sbaen.