Ceir dau brif fath o eiriau am rifau naturiol yn y Gymraeg: rhifolion (un, dau, tri, ...) a threfnolion (cyntaf, ail, trydydd, ...). System ugeiniol yw'r system draddodiadol gan fwyaf, ond dyfeisiwyd system ddegol ar gyfer y rhifolion yn yr 19g. Honnir fod manteision sylweddol i'r system ddegol Gymraeg o ran dysgu rhifyddeg elfennol, o'i chymharu â'r system Saesneg a'r system draddodiadol. Y system ddegol a ddefnyddir mewn ysgolion Cymraeg. Clywir y ddwy system ar waith o hyd ond araf dihoeni o genhedlaeth i genhedlaeth mae'r defnydd o'r rhifau ugeiniol. Clywir mwy o ddefnydd ar y rhifau ugeiniol hyd at ddeg ar hugain a rhwng deugain a deg a thrigain nag a glywir ar y rhifau ugeiniol eraill.
Rhifolion
Mae'r hen system a'r system ddegol yn cytuno hyd at 10. Dynoda (*) fod treiglad meddal yn dilyn, (**) treiglad llaes.
|
Ffurf gwrywaidd |
Ffurf benywaidd |
O flaen enw
|
1 |
un |
un* |
|
2 |
dau* |
dwy* |
|
3 |
tri** |
tair |
|
4 |
pedwar |
pedair |
|
5 |
pump |
pump |
pum
|
6 |
chwech |
chwech |
chwe**
|
7 |
saith |
saith |
|
8 |
wyth |
wyth |
|
9 |
naw |
naw |
|
10 |
deg |
deg |
|
Rhifolion degol
Dyma'r rhifolion degol o 11 hyd at 20:
11 |
un-deg-un |
|
12 |
un-deg-dau |
|
13 |
un-deg-tri |
|
14 |
un-deg-pedwar |
|
15 |
un-deg-pump |
|
16 |
un-deg-chwech |
|
17 |
un-deg-saith |
|
18 |
un-deg-wyth |
|
19 |
un-deg-naw |
|
20 |
dau ddeg |
|
Mae'r rhifolion yn parhau mewn dilyniant rhesymegol, gyda'r degau fel a ganlyn
10 |
deg |
|
20 |
dau ddeg |
|
30 |
tri deg |
|
40 |
pedwar deg |
|
50 |
pump deg |
|
60 |
chwech deg |
|
70 |
saith deg |
|
80 |
wyth deg |
|
90 |
naw deg |
|
100 |
cant |
|
Wedi'r cant, mae'r patrwm yn newid ychydig:
101 |
cant ac un |
|
102 |
cant a dau |
|
103 |
cant a thri |
|
... |
...
|
199 |
cant a nawdeg naw |
|
200 |
dau gant |
|
201 |
dau gant ac un |
|
Dyma sylfaen y rhifau mwy:
Hyd at 999 mae dewis cystrawen i gael i'r rhifau degol; naill ai:
- rhif + enw unigol, e.e. wythdeg saith car
- rhif + o + enw lluosog, e.e. wythdeg saith o geir
Gan fod mil, miliwn a biliwn yn enwau yn hytrach nag yn rifolion, dim ond y ffurf rhif + o + enw lluosog a ellir ei ddefnyddio o'r fil ymlaen, e.e. mil tri chant wythdeg saith o flynyddoedd.
Dyma enghraifft o sut i ddarllen rhifolion mawr:
2,002,593,786 |
dau biliwn, dwy filiwn, pump cant a nawdeg tair mil, saith gant ac wythdeg chwech
|
Rhifolion Ugeiniol
Mae'r system draddodiadol o ffurfio rhifolion yn y Gymraeg yn ugeiniol gan fwyaf, h.y. mynegir rhifau fel rhif llai na 20 wedi ei adio at luoswm o 20. Defnyddir 10 a 15 yn ogystal â 20 fel seilrifau; e.e. tri afal ar ddeg ar hugain wedi'r cant. Y rhifau unigol yw 1 hyd 10, 15, 18, 20, 40, 60, ac 80. Mae'r rhifau yn gyfuniad o rif unigol a ddaw gyntaf, enw'r peth a gyfrifir ac yna'r seilrifau. Neu gellir nodi'r rhif yn gyntaf ac yna enwi'r grŵp o bethau a gyfrir; e.e. tri ar ddeg ar hugain wedi'r cant o afalau. Yn enwedig gyda rhifau mwy, ceir mwy nag un ffordd o'u mynegi.
|
11 |
un ar ddeg |
|
12 |
deuddeg |
|
13 |
tri ar ddeg |
|
14 |
pedwar ar ddeg |
|
15 |
pymtheg |
|
16 |
un ar bymtheg |
|
17 |
dau ar bymtheg |
|
18 |
deunaw |
|
19 |
pedwar ar bymtheg |
|
20 |
ugain |
|
30 |
deg ar hugain |
|
31 |
un ar ddeg ar hugain |
|
32 |
deuddeg ar hugain |
|
39 |
pedwar ar bymtheg ar hugain |
(deugain namyn un)
|
40 |
deugain |
|
41 |
un a deugain |
(deugain ac un (tafodieithol))
|
45 |
pump a deugain |
(deugain a phump (tafodieithol))
|
50 |
hanner cant |
(deg a deugain)
|
51 |
hanner cant ac un |
|
52 |
hanner cant a dau |
|
60 |
trigain |
|
61 |
un a thrigain |
(trigain ac un (tafodieithol))
|
62 |
dau a thrigain |
(trigain a dau (tafodieithol))
|
70 |
deg a thrigain |
|
71 |
un ar ddeg a thrigain |
|
72 |
deuddeg a thrigain |
|
78 |
deunaw a thrigain |
(pedwar ugain namyn dau)
|
80 |
pedwar ugain |
|
81 |
un a phedwar ugain |
(pedwar ugain ac un (tafodieithol))
|
82 |
dau a phedwar ugain |
(pedwar ugain a dau (tafodieithol))
|
90 |
deg a phedwar ugain |
|
91 |
un ar ddeg a phedwar ugain |
|
92 |
deuddeg a phedwar ugain |
|
99 |
pedwar ar bymtheg a phedwar ugain |
(cant namyn un)
|
100 |
cant |
(pum ugain)
|
101 |
cant ac un |
|
102 |
cant a dau |
|
103 |
cant a thri |
|
120 |
cant ac ugain |
(chweugain)
|
150 |
cant a hanner |
|
199 |
cant a phedwar ar bymtheg a phedwar ugain |
(dau gant namyn un)
|
200 |
dau gant |
|
201 |
dau gant ac un |
|
1000 |
mil |
|
1001 |
mil ac un |
|
Trefnolion
Defnyddir y system ugeiniol yn unig ar gyfer trefnolion yn y Gymraeg. I ysgrifennu byrfodd ar gyfer trefnol defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.
Byrfodd |
Trefnol |
Byrfodd |
Trefnol
|
1af |
cyntaf |
11eg |
unfed ar ddeg
|
2il |
ail |
12fed |
deuddegfed
|
3ydd/3edd |
trydydd/trydedd |
13eg |
trydydd/trydedd ar ddeg
|
4ydd/4edd |
pedwerydd/pedwaredd |
14eg |
pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
|
5ed |
pumed |
15fed |
pymthegfed
|
6ed |
chweched |
16eg |
unfed ar bymtheg
|
7fed |
seithfed |
17eg |
ail ar bymtheg
|
8fed |
wythfed |
18fed |
deunawfed
|
9fed |
nawfed |
19eg |
pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
|
10fed |
degfed |
20fed |
ugeinfed
|
|
|
|
|
37ain |
ail ar bymtheg ar hugain |
50fed |
hanner canfed
|
157ain |
ail ar bymtheg a deugain wedi'r cant |
160fed |
trigeinfed wedi'r cant
|
1277ain |
ail ar bymtheg a thrigain wedi'r fil a dau gant |
1280fed |
pedwar ugeinfed wedi'r fil a dau gant
|
300fed |
tri chanfed |
500fed |
pum canfed
|
1,000fed |
milfed |
1,000,000fed |
miliynfed
|
Defnydd ac arfer y gwahanol rifau
Ffynonellau
- Rhiannon Ifans, Y Golygiadur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006)
- Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)