Rhiannon Heledd Williams |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | llenor, academydd |
---|
Darlithydd, ymchwilydd ac awdur yw Rhiannon Williams.
Graddiodd Rhiannon yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Harvard yn ymchwilio ac yn ymddiddori ym maes ymchwil Cymry America a Chymraeg proffesiynol. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017, Cymraeg yn y Gweithle, 2018.[1]
Cyhoeddiadau
Mae Rhiannon wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;
- Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad? - Gwasg Gyfnodol Gymraeg America (2017)
- Cymraeg yn y Gweithle (2018)
Cyfeiriadau
- ↑ "www.gwales.com - 1786830582". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Rhiannon Heledd Williams ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.
|