Rhestr o Siroedd Connecticut

Siroedd Connecticut

Dyma restr o'r 8 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Connecticut yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:

Rhestr

  1. Fairfield County
  2. Hartford County
  3. Litchfield County
  4. Middlesex County
  5. New Haven County
  6. New London County
  7. Tolland County
  8. Windham County

Hanes

Mae wyth sir yn nhalaith Connecticut.

Cafodd pedair o'r siroedd - Fairfield, Hartford, New Haven a New London - eu creu ym 1666, yn fuan ar ôl i Wladfa Connecticut a Threfedigaeth New Haven gyfuno. Crëwyd Siroedd Windham a Litchfield yn ddiweddarach yn oes y trefedigaeth, tra crëwyd Siroedd Middlesex a Tolland ar ôl annibyniaeth America (y ddau ym 1785).

Er bod Connecticut wedi'i rannu'n siroedd, nid oes llywodraeth sirol yn Connecticut, ac mae llywodraeth leol yn cael ei gynnal ar lefel y fwrdeistref yn unig. [1] Diddymwyd bron pob swyddogaeth llywodraeth sirol yn Connecticut ym 1960, heblaw am siryfion etholedig y sir a'u hadrannau oddi tanynt. [2]

Erys enwau siroedd hynafol Connecticut at ddibenion daearyddol. Mae ffiniau daearyddol yr hen siroedd yn dal i gael eu defnyddio gan y dalaith i drefnu ei systemau marsial a barnwrol taleithiol. Mae awdurdodaethau llysoedd Connecticut yn dal i lynu wrth ffiniau'r siroedd, er bod Siroedd Fairfield, Hartford a New Haven wedi'u hisrannu ymhellach i sawl ardal lai.

Tarddiad enwau'r siroedd

Mae chwech o'r siroedd wedi'u henwi ar gyfer lleoliadau yn Lloegr, lle tarddodd llawer o ymsefydlwyr cynnar Connecticut. Mae Fairfield County yn cymryd ei enw o'r cannoedd o erwau o forfa heli a oedd yn ffinio â'r arfordir. Mae New Haven yn cael ei enwi gan ei fod wedi'i sefydlu fel hafan lle gallai Piwritaniaid fod yn rhydd o erledigaeth.[3]

Cyfeiriadau

  1. "NACo | Overview of County Government". web.archive.org. 2008-07-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-08. Cyrchwyd 2020-04-18.
  2. Diddymwyd y siryfion a’u hadrannau gan ddeddfwrfa’r dalaith a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2000. Rhoddwyd gwaith y siryfion i Gomisiwn Marsial y Dalaith ac Adran Carchardai'r Dalaith. <ref>"State Marshals Directory - CT Judicial Branch". www.jud.ct.gov. Cyrchwyd 2020-04-18.
  3. Clark, George L. (George Larkin) (1914). A history of Connecticut : its people and institutions. New York : G.P. Putnam's Sons.