Mae’r Rheilffordd Zig Zag yn Rheilffordd Dreftadaeth yn Awstralia, ger Lithgow yn Ne Cymru Newydd. Mae’r rheilffordd yn defnyddio ‘zig zags’ er mwyn dringo llethrau gorllewinol y Mynyddoedd Glas. Disodlwyd y rheilffordd fel rhan o o reilffordd y dalaith gan dwnel trwy’r mynyddoedd, ond ail-agorwyd y rheilffordd fel rheilffordd dreftadaeth ym mis Hydref 1975 gan gwmni cydweithiol, sef Zig Zag Railway Co-op. Ltd
Caewyd y rheilffordd yn 2012 oherwydd problemau gweinyddol, ond cyn ail-agoriad y rheilffordd, difrodwyd y rheilffordd gan dân yn 2013 ac wedyn gan lifogydd. Roedd tân arall yn 2015 ac dydy’r rheilffordd ddim wedi ail-agor hyd yn hyn.[1][2][3]