Rheilfford Ysgafn Dwyrain Caint
|
|
Daeth y syniad gwreiddiol i adeiladu Rheilffordd Ysgafn Dwyrain Caint ym 1909, i greu rhwydwaith o reilffyrdd rhwng o leiaf 9 glofa i borthladd newydd Porth Richborough. Caewyd mwyafrif y glofeydd heb ddechrau darparu glo – goroesodd dim ond 1 ohonynt - , ond roedd Richborough Port yn fethiant.
Hanes y rheilffordd wreiddiol
Roedd Cyrnol Holman Fred Stephens peiriannydd y lein o'r dechrau, ac yn hwyrach cyfarwyddwr a rheolwr hyd at ei farwolaeth ym 1931. Agorwyd y lein o Shepherdswell i Richborough Port ym 1911, a gweddill y lein yn raddol ar ôl hynny. Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr, rhwng Shepherdswell a Wingham ar 16 Hydref 1916. Agorwyd estyniad byr i Wingham Town ym 1920 a wedyn i Wingham (Ffordd Canterbury) ym 1925. Adeiladwyd cangen o Eastby i Ffordd Sandwich, ac oedd gwasanaeth i deithwyr o 13 Ebrill 1925 hyd at 31 Hydref 1928.[1]
Ym 1926, buddsododd y Rheilffordd Ddeheuol £44,000 ond doedd yno ddim diddordeb pellach gan y cwmni. Roedd trenau glo o Lofa Timanstone yr unig draffig buddiol ar y rheilffordd. Bu farw Stephens ym 1931, a chymerodd W H Austen drosodd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gosododd 3 gwn ar y lein rhwng 1940-42. Parhaodd gwasanaeth i deithwyr hyd at 30 Hydref 1948, a threnau nwyddau rhwng Eastry a Port Richborough hyd at 27 Hydref 1949.[1]
Atgyfodiad
Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Dwyrain Caint yn Nhachwedd 1985. Dechreuodd gwaith adfer ym 1989, ac adeiladwyd copi yr orsaf wreiddiol yn Shepherdswell. Pasiwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn ym 1993, yn caniatáu trenau rhwng Shepherdswell ac Eythorne.[2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol