Dechreuwyd prosiect i ddathlu'r rheilffordd ym 1969, a dewiswyd lein rhwng Ambergate a Pye Bridge a chauwyd ar 23 Rhagfyr 1968. Roedd y cledrau i gyd wedi mynd. Symudwyd ac ailadeiladwyd adeilad o Whitwell a dechreuodd gwasaneth ar filltir o drac ar 22 Awst 1981. Estynnwyd y lein yn raddol i Ironville, Hammersmith a Riddings. Adeiladwyd gorsafoedd newydd yn Swanwick a Hammersmith.[3]