Rheilffordd Lerpwl a Manceinion

Rheilffordd Lerpwl a Manceinion
Y daith gyntaf ar Reilffordd Lerpwl a Manceinion, paentiad (1830) gan A.B. Clayton
Enghraifft o:cwmni rheilffordd, llinell rheilffordd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1823 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBolton and Leigh Railway Edit this on Wikidata
OlynyddGrand Junction Railway Edit this on Wikidata
PencadlysLerpwl Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSwydd Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
Hyd50 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y rheilffordd gyntaf yn y byd i weithredu rhwng dwy ddinas oedd Rheilffordd Lerpwl a Manceinion, sef Lerpwl a Manceinion yng ngogledd-orllewin Lloegr. Roedd y rheilffordd yn galluogi cludo deunyddiau crai, nwyddau gorffenedig, a theithwyr yn gyflym rhwng porthladd Lerpwl a melinau cotwm a ffatrïoedd Manceinion a'r trefi cyfagos.

Rheilffordd Lerpwl a Manceinion oedd y rheilffordd gyntaf i ddibynnu'n gyfan gwbl ar locomotifau stêm, heb unrhyw gerbydau yn cael eu tynnu gan geffylau; y cyntaf i gael traciau dwbl ar ei hyd; y cyntaf i gael system gynhwysfawr o signalau; y cyntaf i weithredu amserlen; a'r cyntaf i gludo'r post. Dylanwadodd ar ddatblygiad rheilffyrdd ledled Prydain yn y 1830au. Ym 1845 amsugnwyd y rheilffordd gan ei phrif bartner busnes, Rheilffordd Grand Junction, a unodd yn ei dro y flwyddyn ganlynol â dau gwmni arall i ffurfio Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (London and North Western).

Adeiladu'r lein

Y trychfa ddofn yn Olive Mount (acwatint 1833)
Un o’r heriau anoddaf a wynebodd adeiladwyr y llinell oedd creu gwely trac sefydlog ar draws Chat Moss, ardal beryglus o fawnogydd dwfn (acwatint c.1831)

Dechreuwyd y gwaith yn 1826. Roedd angen i beirianwyr y prosiect oresgyn sawl her newydd. Yn Lerpwl adeiladwyd Twnnel Wapping, 1.25 milltir (2 km) o hyd – y twnnel cyntaf a adeiladwyd erioed o dan ddinas. Ar ôl y twnnel roedd trychfa 2 filltir (3 km) o hyd, 70 troedfedd (21 m) o ddyfnder, trwy graig yn Olive Mount, ac wedyn traphont 712 troedfedd (217 m) o hyd dros ddyffryn Sankey Brook. Ar ben arall y lein, ar gyrion Manceinion roedd Chat Moss, ardal beryglus o fawnogydd dwfn oedd yn amhosibl i'w draenio. Roedd angen cyfanswm o 64 o bontydd a thraphontydd ar y rheilffordd.

Agor y lein

Trên Dug Wellington yn cael ei baratoi ar gyfer ymadawiad o Lerpwl i Fanceinion ar y diwrnod agoriadol

Agorwyd y lein ar 15 Medi 1830. Roedd y digwyddiad yn achlysur cymdeithasol, gyda llawer o ffigurau cyhoeddus amlwg yn bresennol, gan gynnwys Dug Wellington, y Prif Weinidog. Roedd y diwrnod yn llawn digwyddiadau: lluchiodd tyrfaoedd lysiau at drên y dug; roedd yna nifer o fethiannau technegol; taflwyd trên oddi ar y cledrai a tharodd trên arall ef; mewn digwyddiad arall lladdwyd William Huskisson, yr Aelod Seneddol dros Lerpwl gan y locomotif Rocket.

Er gwaethaf ei ddiffygion tynnodd y digwyddiad sylw'r byd at y posibilrwydd o gludo pobl a nwyddau ar draws pellteroedd hir yn rhad ac yn gyflym. Bu'r rheilffordd yn llwyddiant ysgubol, a buan iawn y lluniwyd cynlluniau i'w chysylltu â phrif ddinasoedd eraill Lloegr. O fewn deng mlynedd roedd 1,775 milltir (2,857 km) o reilffordd ym Mhrydain.

Llyfryddiaeth

  • Booth, Henry, An Account of the Liverpool and Manchester Railway (Lerpwl, 1830)
  • Carlson, Robert, The Liverpool and Manchester Railway Project 1821–1831 (Newton Abbot: David and Charles, 1969)
  • Thomas, R. H. G., The Liverpool & Manchester Railway (Llundain: Batsford, 1980)

Dolenni allanol