Aeth trenau'r Knox a Kane rhwng Kane a Marienville, a phrynwyd rhan o Reilffordd Erie, yn cynnwys Pont Kinzua[1][2]. Prynwyd locomotif 2-8-2 newydd o Waith Tangshan, Tsieina ym 1989 ar gyfer y trenau i deithwyr.Roedd ganddynt locomotif 2-8-0 Baldwin hefyd[3], ond doedd o ddim wedi gweithio ers y 1980au. Defnyddiwyd hen gerbydau'r Rheilffordd Long Island.
Niweidiwyd Pont Kinzua gan gorwynt yn 2003 a phenderfynwyd Talaith Pennsylvania peidio ei thrwsio, oherwydd problemau ariannol.Caewyd y rheilffordd yn 2006 a gwerthwyd ei cherbydau yn 2008[4].