Rheilffordd Dyffryn Aman

Rhan o Reilffordd Dyffryn Aman ger Glanaman.

Mae Rheilffordd Dyffryn Aman (Saesneg: Amman Valley Railway) yn rheilffordd dreftadaeth yn ardal Llanelli ac afon Aman yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rheilffordd yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Rheilffordd Dyffryn Aman, a sefydlwyd yn 1992. Yn y gorffennol, roedd y rheilffordd wedi cael ei defnyddio i gludo glo, a chafodd y rhan gyntaf o'r trac newydd ei ailagor, rhwng Gwaun-Cae-Gurwen a Phontyffynnon, yn 2009, i'r un amcan.

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.