Rheilffordd Bae Hudson (1997)

Rheilffordd Bae Hudson
Enghraifft o:cwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadArctic Gateway Group Edit this on Wikidata
PencadlysRegina Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://arcticgateway.com/the-gateway/#railway Edit this on Wikidata
Locomotif y rheilffordd
Rheilffordd Bae Hudson (du) a Rheilffordd Keewatin (llwyd)

Mae Rheilffordd Bae Hudson yn rheilffordd gyda 1300 cilomedr o gledrau yn Saskatchewan a Manitoba, Canada.

Ffurfiwyd y Cwmni gan gwmni dal OmniTRAX ym mis Gorffennaf 1997 er mwyn prynu 2 gangen y Rheilffordd y Canadian National, yn mynd i’r gogledd o’r Pas,[1] un i Flin Flon ac ymlaen i Lynn Lake ar’r llall i Thompson ac ymlaen i borthladd Churchill ar Fae Hudson.[2] Dechreuodd gwasanaethau ar 20 Awst 1997. Ar yr un adeg, cymerodd OmniTRAX reolaeth porthladd Churchill o Transport Canada. Mae OmniTrax wedi defnyddio trenau mwy, sydd wedi achosi cynnydd mewn traffig o byllau a melinau i’r porthladd. Cludir mwynau, copr, prên, papur ac olew gan y rheilffordd, ac mae VIA Rail yn rhedeg gwasanaeth i deithwyr ar draciau’r rheilffordd.

Hanes

Adeiladwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bae Hudson yn y 1900au dan reolaeth Rheilffordd Canadian National ac wedyn Llywodraeth Canada. Cwblhawyd y rheilffordd ym 1929, a rheolwyd y rheilffordd gan Reilffordd Canadian National hyd at 1997.

Adeiladu’r rheilffordd

Y cynllun gwreiddiol oedd adeiladu rheilffordd i Port Nelson, ar aber Afon Nelson, sydd yn llifo o Llyn Winnipeg. Stoppiodd gwaith adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl ailddechrau, penderfynwyd y buasai cynnal a chadw porthladd ar afon Nelson yn ddrud, a penderfynwyd mynd i aber Afon Churchill. Roedd aber Afon Churchill yn dyfnach, a buasai’n hawdd cynnal porthladd yno.[3]

Llifogydd 2017

Caewyd y rheilffordd ar 23 Mai 2017 oherwydd llifogydd a’r difrod canlynol rhwng Amery a Churchill[4], gan achosi problemau difrifol i economi Churchill; roedd rhaid mewnforio bwyd a thanwydd ar awyrennau. Roedd dadl rhwng llywodraeth Canada ac Omnitrax am gyfrifoldeb dros y gwaith trwsio. Dadlodd y llywodraeth bod gan Omnitrax gyfrifoldeb i wneud y gwaith fel perchnogion. Dadlodd Omnitrax bod y drychineb yn ‘force majeure’ ac felly'n gyfrifoldeb ar y llywodraeth.[5][6]

Gwerthiant i Grŵp ‘Arctic Gateway’

Gwerthwyd y rheilffordd a phorthladd i Grŵp ‘Arctic Gateway’ ym mis Awst 2018, a rhoddwyd cytundebau i ‘Cando Rail Services Cyf’ a ‘Paradox Access Solutions’ i drwsio’r rheilffordd.[7][8] Perchnogion 50% y Grŵp ‘Arctic Gateway’ yw cymunedau Manitoba a llwythau brodorol; y 50% arall yw Cwmni Dal cyllidol Fairfax a Bwyd a Chynhwysion AGT.[9]

Datgannodd llywodraeth Canada ar 31 Awst 2018 y buasai’n rhoi cymorth ariannol i Arctic Gateway er mwyn prynu’r rheilffordd a phorthladd yn ôl o Omnitrax, a rhoddwyd grant o $43 miliwn o ddoleri i dalu am redeg y rheilffordd dros y 3 blynedd nesaf. Croesawodd Justin Trudeau y trên cyntaf i gyrraedd Churchill ers 18 mis ar 1 Tachwedd 2018. Ail-ddechreuodd gwasanaeth i deithwyr mis yn hwyrach.[10]

Mae 2 trên VIA Rail yn wythnosol rhwng Winnipeg a Churchill, ac un rhwng Churchill a The Pas.[11]

Rheilffordd Keewatin

Gwerthwyd Rheilffordd Keewatin, rhwng Cyffordd Sheritt a Lynn Lake, i dri llwyth yr ardal ar 1 Ebrill 2006, ac mae trenau cymysg o deithwyr a nwyddau dwywaith bob wythnos.

Diwylliant poblogaidd

  • Mae’r nofel 1931 ‘End of Steel’ gan Courtney Ryley Cooper yn fersiwn ffiglennol o adeiladu’r rheilffordd.
  • Ynsgrifennodd a recordiodd John Leeder, perfformwr o Calgary, gân o’r enw ‘Hudson Bay Line.[12] Mae Leeder yn dweud bod chwech recordiad gwahanol o’r gân yn bodoli.[13]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. "Trains return to Churchill". Railway Gazette (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-08. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2018.
  2. David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
  3. David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
  4. cyhoeddiad i’r wasg, 9 Mehefin 2017
  5. Gwefan CBC, 1 Medi 2017
  6. Gwefan CBC, 14 Tachwedd 2017
  7. Gwefan y Brandon Sun, 5 Medi 2018
  8. "Gwefan Railway Gazette". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-23. Cyrchwyd 2021-10-20.
  9. Gwefan newyddion CBC
  10. Gwefan newyddion CBC, 2 Rhagfyr 2018
  11. "Gwefan Railway Gazette, 7 Rhagfyr 2018". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-08. Cyrchwyd 2021-09-08.
  12. Gwefan irontrail.ca
  13. Gwefan www.calgarysongwriter.com

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato