Cyn-weithredwr gyda chwmni Exxon yw Rex Wayne Tillerson (ganwyd 23 Mawrth 1952) a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau rhwng 1 Chwefror 2017 a 31 Mawrth 2018 o dan yr Arlywydd Donald Trump.
Ganwyd Tillerson yn Wichita Falls, Tecsas, yn fab i Patty Sue (yn gynt Patton) a Bobby Joe Tillerson.[1] Mynychodd Brifysgol Tecsas a graddiodd gyda gradd baglor mewn peirianneg sifil ym 1975. Ymunodd Tillerson รข chwmni Exxon ym 1975 fel peiriannydd cynhyrchu.[2]
Ar 1 Ionawr, 2006, daeth yn Brif Weithredwr a Chadeirydd ExxonMobil.
Cyfeiriadau