BlodeugerddSaesneg yw'r Reliques of Ancient English Poetry (y cyfeirir ato hefyd fel Reliques of Ancient Poetry neu Percy's Reliques), sy'n gasgliad o faledi a chaneuon poblogaidd gan yr Esgob Thomas Percy a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1765. Roedd yn llyfr dylanwadol a ysbrydolodd y beirdd a llenorion Rhamantaidd, yn cynnwys Syr Walter Scott, ac a hybodd y diddordeb cynyddol mewn llenyddiaeth frodorol gynnar sy'n un o nodweddion ail hanner y 18g yng ngwledydd Prydain.