Mae'r erthygl hon am y RSPCA gwreiddiol yng Nghymru a Lloegr. Ceir mudiadau eraill gydag enwau tebyg mewn gwledydd eraill.
Mae'r Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals (RSPCA) yn elusen yng Nghymru a Lloegr sy'n ymgyrchu yn erbyn creulondeb i anifeiliaid. Caiff yr elusen ei hariannu gan gyfraniadau gwirfoddol ac mae'n un o'r elusennau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gydag incwm o £100 miliwn yn 2005.