R. Silyn Roberts

R. Silyn Roberts
FfugenwSilyn Roberts Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Mawrth 1871 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PerthnasauMathonwy Hughes Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd, sosialydd a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 187115 Awst 1930), a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon..

Cefndir

Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yna i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala.

Pan oedd e'n byw yn Llundain yn y 1900au daeth Silyn yn gyfaill i Lenin.[1]

Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.

Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.

Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio.

Gwaith llenyddol

Y goron a enillodd Silyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1902

Gyda'i gyfaill W.J. Gruffydd, cymerodd ran flaenllaw yn y farddoniaeth delynegol newydd ar ddechrau'r 20g. Uchafbwynt eu cydweithrediad oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd yn 1900. Enillodd Silyn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 gyda phryddest ar y testun Trystan ac Esyllt.

Fel yn achos W.J. Gruffydd, nodweddir barddoniaeth Silyn gan ei delfrydiaeth a'i rhamantiaeth delynegol.

Bywyd personol

Priododd Mary Parry.[2]

Llyfryddiaeth

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gwaith Silyn

  • (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
  • Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
  • Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad.
  • Bugail Geifr Lorraine (1925). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.[3]
  • Cofarwydd (1930). Detholiad o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
  • Llio Plas y Nos (1945). Nofel a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.[4]

Bywgraffiad

Ceir bywgraffiad iddo gan David Thomas (1956).

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48308395
  3. Roberts, R Silyn (1925). Bugail Geifr Lorraine . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  4. Roberts, Robert Silyn (1945). Llio Plas y Nos . Dinbych: Thomas Gee.