Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel MawrEnghraifft o: | llyfr |
---|
Awdur | Bleddyn Owen Huws |
---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
---|
Gwlad | Cymru |
---|
Iaith | Cymraeg |
---|
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 2018 |
---|
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 2018 |
---|
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
---|
Argaeledd | mewn print |
---|
ISBN | 9781784616281 |
---|
Tudalennau | 360 |
---|
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
---|
Prif bwnc | gwyddoniaeth llenyddiaeth |
---|
Astudiaeth o fywyd a gwaith o'r llenor T. H. Parry-Williams gan Bleddyn Owen Huws yw Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2018. Yn 2020 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
Yn ôl broliant y llyfr hwn (2018):
Dyma gyfrol ddadlennol sy'n bwrw golwg newydd ar fywyd a gwaith un o'r beirdd a'r llenorion Cymraeg enwocaf … Am y tro cyntaf ceir darlun cyflawn ohono fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr, yr erlid a fu arno oherwydd a ddaliadau personol, a'r effaith a gofodd hynny ar ei yrfa. Datgelir hefyd lawer mwy am ei fywyd personol, ei bethynas â Dr Gwen Williams a'i ddiddordeb ysol mewn meddygaeth.
Dyma adolygiad byr gan Derec Llwyd Morgan:
Ym mis Medi 1919, penderfynodd Cyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth na allai dderbyn argymhelliad y Pwyllgor Penodi a chynnig Cadair y Gymraeg i T. H. Parry-Williams, a chytunwyd y câi’r swydd ei ailhysbysebu ymhen y flwyddyn. Cafwyd gwrthwynebiad croch i’r bwriad i benodi Parry-Williams ar draul yr ymgeisydd arall, Timothy Lewis; bu’r blaenaf yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr a oedd newydd ddod i ben, tra dewisodd yr ail wirfoddoli a chymryd rhan weithredol yn y brwydro.
Y mae hon yn saga gyfarwydd yn hanes Coleg Aberystwyth. Cyfraniad neilltuol Bleddyn Owen Huws yn yr astudiaeth hon yw ystyried y digwyddiadau yn fwy trylwyr nag y gwnaed erioed o’r blaen, a hynny yng ngoleuni ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Tynnwyd ar bapurau a chofnodion pwyllgorau’r Coleg ac ar ohebiaeth bersonol y prif chwaraewyr, a oedd yn cynnwys yr hen "gadno braf" J. H. Davies, Cofrestrydd ac yna Prifathro’r Coleg; yr ymgeiswyr; aelodau’r Pwyllgor Penodi, a Beriah Gwynfe Evans, tad yng nghyfraith a chefnogwr mwyaf brwd Timothy Lewis. Trafodwyd y penodiad yn faith yn y wasg yn ogystal.
Gosodir yr elyniaeth tuag at Parry-Williams a’r erlid a fu arno yn eu cyd-destun trwy ymdrin â’r modd y sicrhaodd propaganda’r llywodraeth fod y cyhoedd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r rhyfel ac ar yr un pryd yn ffieiddio’r Almaenwyr a’r gwrthwynebwyr cydwybodol fel ei gilydd. Er enghraifft, yn 1917 llwyddwyd mewn dim o dro i godi £76 y pen ar gyfartaledd yn Aberystwyth i gefnogi achos y rhyfel. Gosodir penderfyniad Parry-Williams i wrthod ymladd ochr yn ochr â pharodrwydd cynifer o aelodau o’i deulu i wirfoddoli. Trafodir yn fanwl ei ymddangosiad gerbron y tribiwnlysoedd, ond gan bwysleisio hefyd mai cyndyn iawn fu Parry-Williams i drafod natur ei wrthwynebiad i’r rhyfel fel mai anodd gwybod i sicrwydd ar ba dir y gwnaeth ei safiad.
Pan benderfynodd Cyngor y Coleg oedi a gohirio, cefnodd Parry-Williams ar ei swydd yn Adran y Gymraeg a threuliodd flwyddyn yn astudio pynciau gwyddonol fel sylfaen ar gyfer ymgymhwyso’n feddyg. Unwaith eto, dyma bennod yn ei fywyd y llwyddir i daflu goleuni newydd a gwerthfawr arni. Datgelir ymhellach, a hynny am y tro cyntaf, ei fod wedi dwysystyried ailgydio yn ei astudiaethau meddygol bymtheng mlynedd wedi ei benodiad gohiriedig yn Athro yn 1920. Dangosir, ar sail y llyfrau a brynai ac a astudiai yn ystod y blynyddoedd hyn, na chefnodd yn llwyr ar ei awydd i fod yn feddyg, a chynigir ymhellach fod a wnelo ei garwriaeth â Dr Gwen Williams, meddyg teulu a hanai o Drawsfynydd, â’i gynlluniau.
Astudiaeth yw hon sy’n cynnig goleuni gwreiddiol a chyffrous ar ddwy bennod ym mywyd T. H. Parry-Williams, a’r goleuni hwnnw yn ei dro yn sylfaen i ddehongli rhai o’r cerddi (Cymraeg a Saesneg) a’r ysgrifau mewn ffordd newydd a threiddgar.[2]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau