- Mae'r erthygl yma yn trafod yr hen briordy ar Ynys Bŷr. Am y fynachlog bresennol, gweler Abaty Ynys Bŷr.
Priordy yn perthyn i Urdd Tiron ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro oedd Priordy Ynys Bŷr. Roedd yn un o dri tŷ crefydd yn perthyn i'r Tironiaid yn Sir Benfro; y fam dŷ oedd Abaty Llandudoch.
Roedd yn wreiddiol yn glas Celtaidd, a chysylltiad a Llanilltud Fawr. Rhoddwyd yr ynys i Abaty Llandudoch gan Geva, gweddw Martin o Tiron, ac erbyn 1137 roedd priordy Tironaidd eedi ei sefydlu yno.
Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £5 yn 1535, a dim ond un mynach oedd ar ôl. Diddymwyd y priordy yn 1536.
Llyfryddiaeth
- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992)