Priordy Sanclêr

Priordy Sanclêr
Mathpriordy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Eglwys Sanclêr, sy'n cynnwys rhannau o'r priordy canoloesol.

Priordy canoloesol a godwyd ar ganol y 12g yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin oedd Priordy Sanclêr.

Sefydlwyd Priordy Sanclêr rhywbryd rhwng 1147 a 1184 fel priordy cell yn perthyn i Urdd y Cluniaid. Roedd dan awdurdod Abaty St Martin des Champs ym Mharis. Cyfeirir at ei fynachod fel rhai yn dilyn bywyd afreolus mewn dogfen o 1279. Cafodd yr abaty ei ddiddymu ym 1414.

Nid oes llawer o'r abaty i'w weld heddiw ond mae Eglwys Sanclêr yn cynnwys bwa trawiadol sy'n dyddio o gyfnod y priordy ac mae'n debyg ei fod yn sefyll ar ei safle. I'r de o'r eglwys ceir safle adeiladau preswyl y priordy ond does dim byd wedi goroesi.

Ffynhonnell

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992), tud. 95.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato