Prifysgol annibynnol yng Mhalesteina yw Prifysgol Islamaidd Gaza (Arabeg: الجامعة الإسلامية بغزة) a leolir yn Ninas Gaza, dinas fwyaf Llain Gaza. Rhennir y brifysgol yn 11 o gyfadrannau sy'n cynnig graddau baglor, graddau meistr, doethuriaethau, diplomâu, ac uwchddiplomâu, yn ogystal ag 20 o ganolfannau ymchwil. Yn ogystal â'r prif gampws yn Ninas Gaza, lleolir dau gampws arall yng nghanol Llain Gaza (ynghyd â'r Ysbyty Cyfeillgarwch Tyrcaidd-Palesteinaidd) ac yn neheubarth y llain.[1]
Sefydlwyd ym 1978, a'r hon oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf yn Llain Gaza.[1] Mae Prifysgol Islamaidd Gaza yn aelod o 12 o gymdeithasau a rhwydweithiau rhyngwladol o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol y Prifysgolion (IAU), Undeb Prifysgolion y Môr Canoldir (UNIMED), Cymdeithas y Prifysgolion Arabaidd (AAU), Ffederasiwn Prifysgolion y Byd Islamaidd (FUIW), Rhwydwaith Academaidd y Môr Du a Dwyrain y Môr Canoldir (BSEMAN), a'r Rhwydwaith Prifysgolion Byd-eang dros Newyddiannu (GUNi).
Difrodwyd adeiladau'r brifysgol yn sylweddol gan gyrchoedd awyr Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn ystod ymosodiadau ar Lain Gaza yn 2008,[2] 2014,[3] a 2023.[4]
Cyfeiriadau