Prif ddilyniant

Prif ddilyniant
Disgrifiad o ddosbarthiad ac esblygiad sêr (Diagram Hertzsrung-Russell). Y Prif Ddilyniant yw'r llinell letraws ar ganol y llun.
Enghraifft o:esblygiad serol Edit this on Wikidata
Mathesblygiad serol Edit this on Wikidata
Rhan odiagram Hertzsprung–Russell Edit this on Wikidata
Olynwyd gansubgiant Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Term mewn seryddiaeth yw'r brif ddilyniant[1]. Mae'n cyfeirio ar ran arbennig o graff sy'n cymharu disgleirdeb seren a thymheredd ei ffotosffer (sef ei wyneb arddangosiadol). Yn y rhan hon mae rhan fwyaf o sêr y bydysawd (gan gynnwys yr haul) yn ystod y rhan fwyaf o'u hoes. Lluniwyd y graff a ganfuwyd pwysigrwydd y berthynas ynddi yn 1910 gan Ejnar Hertzsprung[2], seryddwr o Ddenmarc, a'r Americanwr Henry Norris Russell. Fe'i gelwir y diagram Hertzsprung-Russell[1] ar eu hol. Profodd y diagram hwn yn bwysig iawn yn natblygiad ein dealltwriaeth o ddatblygiad a bywyd sêr[3].

Y mwyaf ydy seren, y lleiaf o amser yw ei chyfnod yn y prif ddilyniant. Ar faint y seren, hefyd, y dibynna ei ffawd ar ôl gadael y prif ddilyniant. Yn 4.6 biliwn mlwydd oed mae'r haul tua hanner ffordd ar hyd ei gyfnod yn y prif ddilyniant. Ymhen ryw 5 biliwn o flynyddoedd, fe ddaw cyflenwad tanwydd hydrogen yr haul i ben ac mi fydd yn chwyddo dros gyfnod o ryw biliwn o flynyddoedd i ffurfio is-gawr i gychwyn ac yna cawr coch. Mi fydd y rhain yn ymddangos yng nghangen cawr coch diagram Hertzsrung-Russell.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Andrew Fraknoi; David Morrison; Sidney C. Wolff (2016). Astronomy (PDF). Openstax. tt. 637 ag eraill. ISBN 978-1-938168-28-4.
  2. Ashworth, Jr, William B. (8 Hydref 2019). "Scientist of the Day - Ejnar Hertzsprung". Linda Hall Library. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  3. "Hertzsprung-Russell diagram animation". Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA). Cyrchwyd 5 Mai 2021.