Portread o Dr Richard Price

Paentiad o'r Dr Richard Price gan Benjamin West.

Paentiwyd Portread o Dr Richard Price, sy'n waith olew ar ganfas, yn 1784 gan yr Americawr Benjamin West (1738–1820).[1] Gwerthwyd y llun gan Arwerthwyr Christies ar 23 Tachwedd 2004 a phrynnwyd y llun gan Gyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r llun yn 28 wrth 37 modfedd.

Mae'r portread hwn yn darlunio Price yn eistedd yn ei swyddfa yn darllen llythyr gan ei gyfaill, yr Arlywydd Benjamin Franklin, gyda'r dyddiad 1784 arno. Roedd Richard Price (23 Chwefror, 1723 - 19 Ebrill, 1791), yn athronydd radicalaidd ac yn awdur. Galwyd ef yn "Gyfaill Dynolryw" ac roedd yn ddyn hynod o boblogaidd yn ei amser.

Cofnododd Price y digwyddiad hwn yn ei ddyddiadur, sydd ar gael heddiw, ac sydd, fel y darlun ei hun yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Hwn yw'r paentiad swyddogol, terfynol, ond ceir dau gyffelyb, paratoadau efallai ar gyfer y llun hwn: mae'r naill yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r llall yn cael ei gadw yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.

Gwnaed y ffrâm a oreurwyd gan Maretti.

Europeana 280

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[2]

Yr arlunydd

Ganwyd West yn Springfield, Pennsylvania a theithiodd lawer, gan gynnwys Lloegr lle'i galwyd "y Raffael Americanaidd". Bu farw yn Stryd Newman, Llundain West ar 11 Mawrth 1820 a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.[3]

Cyfeiriadau

  1. auctionclub.com; Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Mai 2016
  2. Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.
  3. Knight, Charles, gol. (1858). "West, Benjamin". The English Cyclopædia. Biography – Volume VI. London: Bradbury and Evans.

Dolenni allanol