Nofel gyntaf yr actores, dramodydd a'r sgriptiwr llwyddiannus, Manon Eames, yw Porth y Byddar, a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'r nofel yn addasiad o'i drama lwyfan o'r un enw [Porth y Byddar] gafodd ei lwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru yn 2007.
Olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Capel Celyn ger y Bala sydd yn y nofel, ac helynt Boddi Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwfl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ "Porth y Byddar - Manon Eames". Cant a mil (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.