Plentyn o dras y Tylwyth Teg a adewir yn y crud wedi i'r Tylwyth Teg ddwyn y plentyn dynol yw plentyn newid. Mae'n draddodiad a geir yn llên gwerin sawl gwlad a diwylliant, yn cynnwys llên gwerin Cymru.
Roedd arferiad i gadw teclyn metel fel siswrn wrth grud baban dynol i gadw'r tylwyth teg, a'r plentyn newid yn eu sgil, i ffwrdd. Mae'n debyg bod rhai pobl yn credu mai plentyn newid oedd unrhyw blentyn â nam meddyliol neu gorfforol yn yr hen ddyddiau.