Pibydd y graean

Pibydd y Graean
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Tringa
Rhywogaeth: T. glareola
Enw deuenwol
Tringa glareola
(Linnaeus, 1758)
Tringa glareola
Tringa glareola

Aderyn sy'n aelod o deulu'r rhydyddion yw Pibydd y Graean (Tringa glareola).

Mae Pibydd y Graean yn nythu mewn gwlyptiroedd ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac yn gaeafu yn Affrica a de Asia, yn enwedig India. Mae'n aderyn pur debyg i'r Pibydd Gwyrdd (T. ochropus), ond mae'n fwy brown ar y cefn a'r coesau yn hirach ac yn felynach.

Nid yw Pibydd y Graean yn nythu yng Nghymru, ond gellir gweld nifer fychan yn ystod y tymhorau mudo, fel rheol o gwmpas pyllau dŵr croyw yn hytrach nag ar y traethau.