Peter Christian Asbjørnsen |
---|
|
Ffugenw | Clemens Bonifacius |
---|
Ganwyd | 15 Ionawr 1812 Christiania |
---|
Bu farw | 6 Ionawr 1885 Christiania |
---|
Dinasyddiaeth | Norwy |
---|
Alma mater | - Prifysgol Oslo
- Q110874390
|
---|
Galwedigaeth | llenor, botanegydd morol, awdur plant, coedwigwr, casglwr straeon |
---|
Ysgolhaig ac awdur a arbenigai yn llên gwerin Norwy oedd Peter Christian Asbjørnsen (15 Ionawr 1812 – 6 Ionawr 1885).
Ganed Asbjornsen yn Christiana (Oslo) yn 1812, yn fab i saer coed. Gwandawai chwedlau gwerin yng ngweithdy ei dad. Roedd y prentisiaid a weithiai yno yn dod o bob cwr o Norwy ac felly daeth yn gyfarwydd â thraddodiadau Norwy gyfan. Yn 1824 cafodd ei anfon gan ei dad i ysgol wledig yn Norderhov, ger Christiana, profiad a ddyfnhaodd ei gariad at draddodiadau Norwy a'i bywyd cefn gwlad. Yno hefyd y cyfarfu â'i ffrind Jørgen Engebretsen Moe.
Gyda Moe, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr, a ystyrir yn glasur fel casgliad chwedlau gwerin a hefyd am ei le mewn llenyddiaeth Norwyeg.