Cystadleuaeth tenis flynyddol yw Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau. Cynhelir am byfethnos yn dechrau ar Ddydd Llun olaf mis Awst, ac felly hwn yw'r olaf o dwrnameintiau'r Gamp Lawn yn y calendr tenis. Chwaraeir ar gyrtiau caled yn Nghanolfan Tenis Genedlaethol Billie Jean King ym Mharc Flushing Meadows–Corona ym mwrdeistref Queens, Dinas Efrog Newydd, UDA. Cynhelir pencampwriaethau senglau dynion a menywod, parau dynion, menywod a chymysg, cystadlaethau i chwaraewyr ifainc a hŷn, a chwaraewyr mewn cadair olwyn.