Mae Pen Gwyn yn gymeriad anthropomorffig sydd yn ymddangos yng nghylchgronau plant ac ar nwyddau Urdd Gobaith Cymru, mae o'n greadur gwyn coch a du wedi ei seilio ar siâp pengwin[1].
Crëwyd y cymeriad Pen Gwyn ym 1979 gan Wynne Melville Jones, swyddog cyfathrebu'r Urdd ar y pryd, i fod yn gyfaill i Mistar Urdd penderfynodd Jones i greu cymeriad byddai'n symbol o berthynas plant Cymru a phlant y Wladfa.[2]
Cyflwynwyd Pen Gwyn i blant Cymru am y tro cyntaf ym Maes Awyr Caerdydd yn dod allan o awyren a oedd wedi hedfan o Batagonia, roedd nifer o aelodau'r Urdd yno, yng nghwmni Mistar Urdd i'w groesawu.
Ymddangosodd Pen Gwyn mewn stribedi cartŵn am helyntion Mr Urdd yn y cylchgrawn Deryn a ddyluniwyd gan Mary Vaughan Jones creawdwr Sali Mali. Yn ogystal fe ryddhawyd cân Pen Gwyn, wedi'i chyfansoddi gan Geraint Davies a'i pherfformio gan Emyr Wyn.[3]
Prin bu'r sôn am Pen Gwyn o ganol y 1980au hyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili 2015 pan ddychwelodd i Gymru fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd taith y Mimosa i ffurfio'r Wladfa, yn ogystal ag ymweld â'r eisteddfod ail ymddangosodd Pen Gwyn fel cymeriad stribed cartŵn yn CIP, cylchgrawn yr Urdd i blant 7-11 oed[2].
Cyfeiriadau