Panjshir
Un o daleithiau Affganistan yw Panjshir (Dari/Pashto: پنجشیر) a leolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Crewyd yn 2004 fel talaith ar wahân i Parwan, ac fe'i enwir ar ôl Dyffryn Panshir. Mae'n ffinio â Baghlan a Takhar i'r gogledd, Badakhshan a Nuristan i'r dwyrain, Laghman a Kapisa i'r de, a Parwan i'r gorllewin. Rhennir y dalaith yn saith dosbarth gweinyddol, ac mae'n cynnwys rhyw 500 o bentrefi. Yn 2021 roedd ganddi boblogaeth oddeutu 173,000.[1] Bazarak, enw ar chwe phentref cyfagos, yw prifddinas daleithiol Panjshir. Panjshir yw'r dalaith olaf i wrthsefyll ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021; ceir gwrthsafiad i'r Taleban hefyd yn rhannau o Baghlan. Arweinir Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol, sydd wedi sefydlu mân-amddiffynfeydd o amgylch Dyffryn Panjshir, gan Ahmed Massoud. Cyfeiriadau
Information related to Panjshir |