Mae Pan yn cylchio o fewn gwahaniad Encke ym modrwy A Sadwrn.
Mae lloerennau bach sy'n agos i'r modrwyau'n cynhyrchu patrymau o donnau yn y modrwyau. Cyn darganfod Pan, roedd dadansoddiad o'r patrymau ar gyrion modrwy A Sadwrn wedi rhagweld maint a lleoliad lloeren fach. Cafodd Pan ei darganfod trwy ailarchwilio ffotograffau 10 mlwydd oed Voyager o'r lleoliad.
Mae'n bosibl bod yna chwaneg o loerennau o fewn modrwyau Sadwrn sydd eto heb eu darganfod.