Owen Williams (Owen Gwyrfai)

Owen Williams
FfugenwOwain Gwyrfai Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Ionawr 1790 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd a hynafiaethydd hunan-addysgedig o Gymruoedd Owen Williams neu Owen Gwyrfai (10 Ionawr 1790 - 3 Hydref 1874).

Bywgraffiad

Roedd yn frodor o Waunfawr, yn ardal Arfon (Gwynedd). Cyfeiria ei enw barddol at Afon Gwyrfai. Roedd Owen Gwyrfai yn gowper wrth ei alwedigaeth.

Gwaith llenyddol

Ymddiddorai mewn barddoniaeth Gymraeg a hynafiaethau ei fro. Copïai farddoniaeth Gymraeg o lawysgrifau a helai achau enwogion y gorffennol. Ysgrifennodd gyfrol ar fywyd Peter Williams (1723-1796), y clerigwr Methodistaidd ac esboniwr Beiblaidd. Cyhoeddodd yn ogystal eiriadur Cymraeg.

Cafodd ei addysg farddol gan Dafydd Ddu Eryri, yntau'n frodor o'r Waunfawr. Roedd yn un o'r disgleiriaf o'r cylch o ddisgyblion a alwyd yn "Gywion Dafydd Ddu", a oedd yn cynnwys yn ogystal Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Griffith Williams (Gutyn Peris) a William Ellis Jones (Cawrdaf).

Llyfryddiaeth

  • Y Drysorfa Hynafiaethol (1839)
  • Y Geirlyfr Cymraeg
  • Hanes Peter Williams

Cyhoeddodd ei fab Thomas Williams gofiant iddo a detholiad o'i gerddi yn y gyfrol Gemau Gwyrfai (1904).

Cyfeiriadau