Un o 16 rhanbarth Moroco yw Oued Ed-Dahab-Lagouira (Arabeg: وادي الذهب لكويرة), yng Ngorllewin Sahara. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 142,865 km² a phoblogaeth o 99,367 (cyfrifiad 2004). Dakhla (hen enw Sbaeneg: Villa Cisneros) yw'r brifddinas, ar lan Cefnfor Iwerydd.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys un préfecture ac un dalaith:
Préfecture Aousserd
Talaith Oued Ed-Dahab
Mae'n ardal sych, lled-anial, ar ymyl gorllewinol y Sahara. Mae mwyafrif y boblogaeth yn byw ar yr arfordir ac yn cynnwys nifer o Forocwyr sydd wedi cael eu hannog i ymfudo i'r diriogaeth gan y llywodraeth; er mwyn eu denu, mae trethi yn is o lawer yma nac yng ngweddill Moroco.