Roedd Olwen Elizabeth Carey Evans, DBE (ganwyd Olwen Lloyd George; 3 Ebrill 1892 – 2 Mawrth 1990) yn ferch i'r gwleidydd David Lloyd George a'i wraig gyntaf Margaret. Roedd hi'n nyrs yn y Rhyfel y Byd Cyntaf.[1]
Roedd hi'n gweithio yn Boulogne, Ffrainc, ym 1915.[2] Priododd â'r Capten Thomas John Carey Evans, MC, yn ddiweddarach Syr Thomas Carey-Evans (m. 1947), ar 19 Mehefin 1917, mewn capel y Bedyddwyr.[3]
Llyfryddiaeth
- Lloyd George Was My Father (1985)
Cyfeiriadau