Clerigwr ac awdur o Gymru oedd Oliver Thomas (tua 1598 - 1652). Roedd yn Biwritan cynnar a gyhoeddodd bedwar llyfr crefyddol yn y Gymraeg, yn cynnwys Car-wr y Cymru (sef "Carwr y Cymry").[1]
Bywgraffiad
Ganed Thomas yn Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) tua'r flwyddyn 1598. Ar ôl cyfnod ger Croesoswallt yn Swydd Amwythig, cafodd ei benodi'n Brofwr dan y ddeddfwriaeth Biwritanaidd Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru a rhoddwyd iddo fywoliaeth plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych. Bu farw yn 1652.[1]
Gwaith llenyddol
Cyfieithodd neu addasodd bedwar llyfr Saesneg i'r Gymraeg er mwyn hyrwyddo Anghydffurfiaeth a Phiwritaniaeth yng Nghymru. Ystyrir un o'r llyfrau hyn, sef Car-wr y Cymru, yn un o glasuron rhyddiaith llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg.[1]
Llyfryddiaeth
- Car-wr y Cymru (1630)
- Car-wr y Cymru (1631)
- Sail Crefydd Ghristnogol (c. 1640). Ysgrifennwyd ar y cyd ag Evan Roberts o Lanbadarn.
- Drych i Dri Math o Bobl (c. 1647)
Cyfeiriadau