Bwrdeistref yn y Ffindir yw Ohcejohka (yn Sameg gogleddol; Ffinneg: Utsjoki; Sameg Aanaar: Uccjuuhâ; Sameg Sgolt: Uccjokk) sydd wedi'i lleoli yn y Lapdir ac yn ffinio gyda Norwy a bwrdeisdref Aanaar. Mae dwy iaith swyddogol yn y gymuned, Sameg gogleddol a Ffinneg. Roedd 1,251 o drigolion yn byw yn y gymuned yn 2015 ac roedd 47,0% o'r trigolion yn siarad Sameg fel eu mamiaith yn 2012, sfe y ganran uchaf yn y Ffindir.[1]