Mewn geometreg solat, mae ochr (face) yn blân fflat sy'n ffurfio rhan o ffin gwrthrych solat. Mae gan wrthrych solat tri dimensiwn sawl ochr, a gelwir y gwrthrych hwn yn bolyhedron e.e. mae'r ciwb yn bolyhedron ac mae ganddo 6 ochr. Mae gan bob ochr "arwyneb" (surface).[1][2]
Ochrau polygonau
Mewn geometreg elfennol, 'ochr' yw polygon ar ffin polyhedron.[3]
Er enghraifft, mae unrhyw un o'r chwech sgwâr sy'n ffurfio ciwb yn 'ochr'. Defnyddir y gair 'ochr' hefyd am nodweddion dau-ddimensiwn polytop-4. Yn yr ystyr hwn, mae gan y teseract 4-dimensiwn 24 ochr sgwâr, pob un yn rhannu dau allan o 8 cell ciwbig.
Cyfeiriadau