Ymgeisydd i urdd Gristnogol, megis y fynachaeth neu'r offeiriadaeth, yw nofydd (neu yn achos merched, hynny yw lleian: nofyddes).[1] Yn ystod ei dymor prawf, a elwir yn nofyddiaeth, câi'r nofydd ei hyfforddi a'i brofi gan ei uchafiaid i sicrháu taw'r eglwys yw ei wir alwedigaeth. Defnyddir y term bron yn unig i ddisgrifio profiad y mynachod, lleiain ac offeiriaid yn yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Ceir syniad debyg gan y mynachod Bwdhaidd, a elwir yn samanera.
Cyfeiriadau