Mur o feini a thywyrch ar draws canolbarth yr Alban oedd Mur Antoninus. Adeiladwyd y mur gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Antoninus Pius, gan ddechrau yn 142 a gorffen y gwaith yn 144. Mae'n 60 km (37 milltir) o hyd, yn ymestyn o
Old Kilpatrick i Bo'ness. Bwriadwyd y mur i gymeryd lle Mur Hadrian, 160 km (100 milltir) i'r de, fel ffin y dalaith Rufeinig.
Ugain mlynedd yn ddiweddarch, yn 164, tynnodd y Rhufeiniaid eu milwyr oddi ar y mur yma ac encilio i Fur Hadrian. Wedi cyfres o ymosodiadau yn 197, daeth yr ymerawdwr Septimius Severus i'r Alban yn 208, a thrwsiodd rannau o'r mur. Ychydig flynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid eto, ac adfeiliodd y mur.