Umm al-Nasr Mosg (Arabeg: مسجد أم النصر; cyfː "Mam Buddugoliaethau") neu weithiau Fosg Beit Hanoun yw'r mosg hynaf yn ninas Beit Hanoun yn Llain Gaza, Palestina. Mae wedi'i leoli yng nghanol y ddinas.
Hanes
Adeiladwyd Mosg Umm al-Nasr yn 1239 gan yr Ayyubidiaid i goffáu eu milwyr a fu farw mewn brwydr ar safle'r mosg yn erbyn y Croesgadwyr Ewropeaidd. Yr Ayyubids oedd yn fuddugol, a bathwyd yr enw Umm al-Nasr ("Mam Buddugoliaethau") i gofio'r frwydr.[1][2] Mae'r arysgrif ar y wal uwchben mynedfa'r mosg yn priodoli'r gwaith adeiladu i swltan al-Adil II, o genedl yr Ayyubid [3]
Nid oedd y frwydr sy'n cael ei choffáu yn un fawr, ond yn hanes y Croesgadau diweddarach roedd yn arwyddocaol iawn. Mae'r hanesydd Eifftaidd al-Maqrizi yn sôn bod y frwydr wedi digwydd ar 13 Tachwedd 1239 ac wedi gorffen gyda buddugoliaeth o’r Aifft (Ayyubid). Caiff hyn ei gadarnhau yn adroddiadau'r Croesgadwyr a honiad al-Maqrizi fod y Ffrancwr Harri Iarll y Bar, ynghyd â 1,000 o’i ddynion wedi’u lladd yn yr frwydr, a bod 600 wedi’u cymryd yn garcharorion, a bod y mwyafrif ohonynt wedi’u lladd gan eu caethyddion ar y ffordd i’r Aifft.[4]
Byddin Israel yn chwalu'r mosg yn 2006
Ar 3 Tachwedd 2006 cafwyd brwydr arall, y tro hwn, rhwng byddin Israel a Phalesteiniaid o fewn y mosg. Dinistriwyd y mosg yn llwyr gan daflegrau Israel, a'r unig strwythur heb ei gyffwrdd oedd y portico deheuol, sef cromen bas yng nghanol y mosg. Saethodd milwyr Israel bron i 40 o ferched Palesteinaidd a oedd yn gorymdeithio i amddiffyn y mosg a lladdwyd dwy.[5] Condemniwyd gweithredoedd Israel gan y Cenhedloedd Unedig.[6]
Pensaernïaeth
Roedd y mosg gwreiddiol yn cynnwys un ystafell fawr, gyda chromen syml, wedi'i hadeiladu o gerrig crai, wedi treulio.[7] Nid oes unrhyw beth ar ôl o'r mosg gwreiddiol ar wahân i'r portico deheuol gyda'i do - sy'n cynnwys claddgelloedd a chromen fas yn y canol. Mae'r neuadd weddi yn gorffen gydag ystafell i'r dwyrain gyda tho cromen wedi'i chynnal ar drionglau sfferig. Mae'r plât sylfaen wedi'i arysgrifio mewn sgript nasyki Ayyubid.[7]
Cyfeiriadau
Darllen pellach