Dau ddigrifwr Seisnig a weithiai ar radio, ffilm a theledu oedd Eric Morecambe ac Ernie Wise, a chyfeirir atynt fel arfer fel Morecambe and Wise, neu Eric and Ernie. Parhaodd eu partneriaeth o 1941 tan farwolaeth Morecambe ym 1984. Mewn rhestr o'r 100 rhaglen deledu Prydeinig gorau, a grëwyd gan y British Film Institute yn 2000, a ddewiswyd gan bobl broffesiynol yn y diwydiant, pleidleisiwyd The Morecambe and Wise Show yn rhif 14th.