Ffilm gomedi gerddorol o 1983 gan griw comedi Monty Python yw Monty Python's The Meaning of Life. Yn wahanol i'r ddau ffilm arall a wnaethant yn flaenorol, a oedd yn gyffredinol yn adrodd un stori cydlynus, roedd The Meaning of Life yn dychwelyd i'r fformat o sgetsys comedi fel y gwelwyd yn y gyfres deledu wreiddiol. Dyma oedd y cynhyrchiad mawr olaf a wnaeth criw Monty Python.