Mohammed Nadir Shah (10 Ebrill 1880 – 8 Tachwedd 1933) oedd brenin Affganistan o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1933.
Roedd yn fab i Dost Mohammed a phennaeth byddin Amanullah Khan (Emir yn wlad ac yn ddiweddarach ei brenin) yn y Drydedd Ryfel Eingl-Affganaidd (1919 - 1922) a arweiniodd at ennill annibyniaeth lawn i Affganistan ar Brydain dan Gytundeb Rawalpindi yn 1922. Ond collodd ffafr yr emir a bu rhaid iddo ffoi i alltudiaeth yn Ffrainc.
Yn 1929, pan ymddeolodd Amanullah fel brenin y wlad, dychwelodd i Affganistan gyda chefnogaeth ddiplomyddol Prydain a chychwynodd ar raglen o ddiwygiadau economaidd a chymdeithasol. Ond, fel yn achos ei ragflaenydd, roedd elfennau ceidwadol yn anfodlon am hyn a chafodd Mohammed Nadir ei lofruddio gan asasin yn 1933. Fe'i olynwyd gan ei fab Mohammed Zahir Shah.