Miles Davis

Miles Davis
FfugenwCleo Henry Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Mai 1926 Edit this on Wikidata
Alton Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1991 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
Label recordioPrestige, ACT Music, Capitol Records, Columbia Records, Philips Records, Fontana Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd
  • East St. Louis Lincoln High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, trympedwr, arweinydd band, arweinydd, hunangofiannydd, cerddor jazz, actor, cyfansoddwr caneuon, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cerddor, actor teledu, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddulljazz, bebop, cool jazz, hard bop, modal jazz, jazz fusion Edit this on Wikidata
TadMiles Henry Davis Edit this on Wikidata
PriodCicely Tyson, Betty Davis, Frances Taylor Davis Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Gerdd Léonie Sonning, Paul Acket Award, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, MOJO Awards, NEA Jazz Masters, Rock and Roll Hall of Fame, honorary doctorate of Paris Nanterre University Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.milesdavis.com Edit this on Wikidata
Miles Davis
Math o GerddoriaethJazz
Gwaith
  • Cerddor
  • arweinydd band
  • cyfansoddwr
Offeryn/nau
Cyfnod perfformio
  • 1944–1975
  • 1980–1991
Label
Perff'au eraillCharlie Parker, John Coltrane, Bill Evans, Cannonball Adderley, Wayne Shorter, Herbie Hancock, Chick Corea
Offerynnau nodweddiadol
Martin Committee

Trwmpedwr jazz o'r Unol Daleithiau oedd Miles Davis (26 Mai 192628 Medi 1991). Roedd yn ffigwr ganolog mewn nifer o'r symudiadau pwysicaf mewn Jazz yn ystod ei fywyd, ac ef yw un o ffigyrrau pwysicaf y genre yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.[1] Yn ogystal â bod yn arloeswr cerddorol a gyfranodd yn sylweddol drwy ei gerddoriaeth ei hun, roedd Davis yn dda iawn ar ganfod cerddorion ifanc, talentog i fod yn rhan o'i fandiau. Drwy gerddoriaeth Miles Davis lansiwyd gyrfaoedd dwsinau o enwogion eraill Jazz, gyda rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus yn eu plith yn cynnwys John Coltrane, Bill Evans, Herbie Hancock, Wayne Shorter, Chick Corea, John McLaughlin, Keith Jarrett, John Scofield a Kenny Garrett.

Gyrfa gynnar

Davis gyda Charlie Parker yn Efrog Newydd, tua 1945

Daeth Davis i'r amlwg yn ail hanner yr 1940au hwyr fel rhan o fand Charlie Parker, un o arloeswyr canolog cerddoriaeth bebop, math o Jazz oedd yn dangos arloesedd harmonïol a thechnegol o'u cymharu â'r swing oedd yn boblogaidd ar y cyfnod. Y recordiad adnabyddus cyntaf gyda Davis yw sesiwn gan fand Parker a recordiwyd yn 1947; ar y recordiadau yma mae chwarae Davis i'w glywed yn weddol betrusgar. Heb os, rhoddodd perthynas Davis â Parker - un o gerddorion Jazz pwysicaf a mwyaf poblogaidd ei oes - enwogrwydd i Davis; fodd bynnag, mae'n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Davis berthynas hir â chyffuriau anghyfreithlon, yn enwedig Heroin (roedd Parker defnyddio heroin yn helaeth, ffactor a gyfranodd at ei farwolaeth yn 1955 yn 36 oed yn unig). Byddai defnydd parhaus Davis o gyffuriau'n bla ar weddill ei yrfa.

Ar ôl gadael band Parker, prosiect nesaf Davis oedd cyfres o recordiadau a byddai'n cael eu rhyddhau'n ddiweddarach o dan yr enw The Birth of the Cool. Prosiect arloesol oedd hwn ar y cyd â nifer o gerddorion Jazz eraill, gan gynnwys Gerry Mulligan a Gil Evans. Yn ystod y sesiynau hyn (a recordiwyd rhwng 1949 ac 1951), clywwyd Davis o flaen band gweddol mawr o naw o gerddorion (roedd rhwng 4-6 o gerddorion yn gyffredin i fandiau Bebop o'r cyfnod), yn chwarae cerddoriaeth arafach a mwy strwythuredig.[2] Esgorodd y record ar genre Jazz newydd, a chyfeirir ato weithiau fel Jazz Cŵl; fodd bynnag, Mulligan ac eraill fyddai prif cerddorion y math yma o gerddoriaeth a ni fyddai Davis yn ailgafael ynddi ar ôl y 50au cynnar.

Y Pumawd Fawr Gyntaf a'r recordiau gyntaf i Columbia

Ar ôl cyfnod o ychydig flynyddoedd yn arwain bandiau dros-dro a recordio sesiynau i'r label Prestige Records, ffurfiodd Davis un o'i fandiau mwyaf enwog yn 1955. Pumawd oedd y band yma gyda Davis, y sacsoffonydd John Coltrane, y pianydd Red Garland, Paul Chambers yn chwarae'r bas a'r drymiwr Philly Joe Jones. Yn ddiweddarach cyfeiriwyd at y band hwn fel 'Y Pumawd Fawr Gyntaf' (Saesneg: The First Great Quintet) Ar yr un pryd, daeth Davis i sylw'r cwmni recordiau enfawr Columbia. Oherwydd y contract oedd rhwng Davis a Prestige - roedd wedi ymrwymo i recordio nifer benodol o albymau cyn iddo gael ei ryddhau - recordiodd y band hwn nifer sylweddol o sesiynau yn 1956 er mwyn bodloni'r contract a chaniatau i Davis symud i Columbia (a byddai'n talu llawer mwy am ei gerddoriaeth). Yn sicr, cyfranodd y corff mawr hwn o recordiau at enwogrwydd y pumawd, nad oedd gydai'i gilydd ond am gyfnod cymharol fyr rhwng 1955 ac 1958.

Mae recordiau cyntaf Davis i Columbia ymysg ei rhai mwyaf enwog, ac ymysg y rhai enwocaf yn Jazz. Yn ogystal â Round Midnight yn 1956 (record gyntaf Miles i Columbia a'r olaf i'r pumawd), rhwng 1957 a 1959 recordiodd Davis Miles Ahead (1957), Milestones a Porgy & Bess (1958) a Kind of Blue yn 1959. Ar Miles Ahead a Porgy & Bess roedd Davis yn chwarae o flaen band mawr wedi'i cyfarwyddo gan ei hen gydymaith o The Birth of the Cool, Gil Evans. Ar Kind of Blue, clywyd Davis gyda chwewchawd yn cynnwys Coltrane a Chambers o'r pumawd, Bill Evans neu Wynton Kelly ar y piano, y drymiwr Jimmy Cobb ac ail sacsoffon, Julian 'Cannonball' Adderley. Nid record mwyaf llwyddiannus Davis yn unig oedd hwn, ond y record Jazz a werthodd y nifer fwyaf o gopiau erioed. Ynddi, roedd Davis yn arloesi eto gan gyflwyno moddau i'w gerddoriaeth.[3]

Yr Ail Bumawd Fawr

Davis gyda Ron Carter a Tony Williams yn Antibes, Ffrainc, Gorffennaf 1963

Erbyn dechrau'r 1960au Miles Davis oedd un o gerddorion enwocaf a chyfoethocaf yn Jazz. Fodd bynnag, roedd y 1960au cynnar yn gyfnod o chwilio ac arbrofi yn dilyn arloesi llwyddiannus diwedd y 50au. Gadawodd John Coltrane am y tro olaf yn 1960 i ffurfio ei fand ei hun; cafodd Davis drafferth yn cael gafael ar olynydd. Ymunodd Jimmy Heath, Sonny Stitt, Sonny Rollins a Hank Mobley am gyfnodau byr; o'r rhain dim ond Mobley arhosoodd am ddigon o amser i ymddangos ar recordiau swyddogol gan Davis yn y cyfnod. Erbyn diwedd 1962 cafodd Davis ei hun heb fand o gwbl ar ôl ymaddawiad Mobley, gyda Wynton Kelly, Jimmy Cobb a Paul Chambers (a fu gyda Davis ers 1955) yn gadael hefyd i ffurfio triawd.

Ffurfiodd Davis fand newydd yn 1963 gyda George Coleman ar y sacsoffon, Herbie Hancock ar y piano, Ron Carter ar y bas a'r drymiwr Tony Williams. Roedd y band newydd hon yn ifanc iawn: roedd Hancock yn 23 oed a Williams yn 17 oed yn unig adeg eu recordiad cyntaf gyda Davis, Miles Davis in Europe. Ar ôl i Wayne Shorter gymryd lle Coleman yn 1964, roedd ail bumawd fawr Davis wedi'i ffurfio: arhosodd y grŵp newydd hon gyda Davis hyd at 1968, gyda Shorter yn aros hyd at 1970. Dilynodd gerddoriaeth Davis gyda'r band yr arloesi cynharaf ar Kind of Blue drwy ddefnyddio moddau cerddorol; fodd bynnag roedd cerddoriaeth yr Ail Bumawd Fawr yn aml yn gyflymach ac yn fwy firtiwosig nag unrhywbeth a glywyd ar y record gynharach. Roedd albymau Davis gyda'r Ail Bumawd yn cynnwys E.S.P. (1965), Miles Smiles (1966), Sorceror a Nefertiti (ill dau yn 1967) a Miles in the Sky (1968).

Yr 1970au: Jazz fusion a Cherddoriaeth Electronig

Davis yn 1971

Erbyn diwedd y 60au roedd Davis yn ei 40au cynnar ac yn ymwybodol nad oedd Jazz bellach yn gerddoriaeth fwyaf poblogaidd yr UDA a bod cynulleidfaoedd ifanc yn gwrando fwyfwy ar gerddoriaeth roc ynlle. Ymatebodd i hyn drwy gyfuno rhai elfennau o'r gerddoriaeth newydd, megis offerynnau electronig a churiadau mwy cyson, i mewn i'w gerddoriaeth: daeth y cyfuniad hwn o Jazz a cherddoriaeth Roc i ddwyn yr enw Jazz fusion, ac unwaith eto Miles Davis oedd yn arloesi. Dechreuodd Davis arbrofi gydag offerynnau electronig mor gynnar a 1967, er na chafodd y recordiau hyn eu rhyddhau ar y pryd. Roedd piano electonig i'w glywed ar Miles in the Sky yn 1968, ac o albwm nesaf Davis, Files de Kilimanjaro (1968), ymlaen, byddai offerynnau electronig i'w clywed ar bob un o recordiau Davis am weddill ei oes. Erbyn y cyfnod hwn, peidiodd Davis a gwisgo'r siwtiau smart roedd wedi eu ffafrio ar gyfer perfformio'n gyhoeddus yn ystod y 60au.

Gadawodd Carter a Hancock y band yn 1968 a cymerwyd eu llefydd gan Dave Holland a Chick Corea. Yn dechrau gyda In a Silent Way yn 1969, mabwysiadodd Davis dull arloesol newydd o greu recordiau yn y stiwdio. Byddai cynhyrchydd Davis, Teo Macero, yn recordio oriau o gerddoriaeth a byrfyfyrio cyn (dan arweinyddiaeth Davis) adeiladu'r traciau terfynol o'r gerddoriaeth a recordiwyd. Roedd y dull yma'n hollol newydd ym myd Jazz, ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth ar ei recordiau stiwdio o'r cyfnod. Y mwyaf enwog a phoblogaidd o'r rhain oedd Bitches Brew (recordiwyd 1969); er roedd y gerddoriaeth yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid Jazz, gwerthwyd miliynau o gopïau ac enillodd yr albwm gynulleidfa ifanc, newydd i gerddoriaeth Davis. Dilynodd nifer o aelodau bandiau Davis ef i mewn i Jazz Fusion, gan gynnwys Shorter, Hancock a Williams o'r ail bumawd, a Chick Corea.

Erbyn canol y 70au roedd Davis cerddoriaeth wedi symud ymhellach i gyferiad funk, gyda nifer o recordiau dadleuol yn dangos dylanwad cerddorion poblogaidd o'r cyfnod, ond hefyd y cyfansoddwr avante-garde Almeinig Karlheinz Stockhausen. Yn dilyn ymadawiad Keith Jarrett (olynydd Chick Corea ar y piano) yn 1970, ni ddefnyddiodd Davis bianydd eto a dechreuodd Davis gynnwys chwaraewyr gitar trydanol yn ei fandiau (hyd at dri ohonynt ar adegau) gan greu sŵn trymach na llawer o fandiau roc y cyfnod. Yn ystod y cyfnod hwn fodd bynnag gwaethygodd iechyd Davis yn sylweddol ac ar ôl perfformiad byw olaf yn 1975, ni chwaraeodd yn gyhoeddus eto am weddill y degawd.

Dychwelyd i chwarae yn yr 1980au

Davis yn Strasbourg, 1987

Bu Davis yn dioddef yn wael yn ystod ail hanner y 70au o broblemau iechyd a chyffuriau: disgrifiodd y cyfnod hwn gyda gonestrwydd nodweddiadol yn ei hunanfywgraffiad. Er gwaethaf rhai ymdrechion i recordio ac i ailafael yn ei yrfa, ni ddychwelodd i berfformio cyhoeddus (a hynny gyda band hollol newydd) tan 1980. Recordiwyd ei albwm gyntaf ar ôl dychwelyd yn 1980 ac 1981, The Man with the Horn (1981). Roedd recordiau'r cyfnod olaf hwn yng ngyrfa Davis yn llwyddiannus o ran gwerthiannau, ond bu'r ymateb beirniadol i'w recordiau o'r 80au yn gymysg. Bu Davis yn gwrando llawer ar gerddoriaeth bop, gan chwarae ei fersiynau personol o ganeuon gan Michael Jackson, Cyndi Lauper a Scritti Politti yn rheolaidd fel rhan o'i gyngherddau.

Bu farw Davis yn 1991, yn fuan ar ôl recordio ei albwm olaf, Doo-bop (1991), ymdrech arloesol arall i gyfuno Jazz a cherddoriaeth hip-hop.

Recordiau (detholiad)

  • The Birth of the Cool, 1957 (Recordiwyd 1949-51)
  • Miles Ahead, 1957
  • Milestones, 1958
  • Kind of Blue, 1959
  • Someday my Prince will Come, 1961
  • Miles Smiles, 1967
  • Bitches Brew, 1970
  • On the Corner, 1972
  • Tutu, 1986
  • Doo-bop, 1991

Cyfeiriadau

  1. Ruhlmann, William. "Miles Davis Biography". AllMusic. Cyrchwyd 16 Mehefin 2016.
  2. Mulligan, Gerry. I hear America singing Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback
  3. "Liner note reprint: Miles Davis — Kind of Blue (FLAC — Master Sound — Super Bit Mapping)". Stupid and Contagious. Cyrchwyd Gorffennaf 27, 2008.