Ar 14 Grffennaf 2016 dywedodd ymgyrch Donald Trump mai Pence fyddai dewis Trump ar gyfer partner yn etholiad arlywyddol 2016.[5] Aeth ymgyrch Trump-Pence ymlaen i drechu ymgyrch Clinton-Kaine yn yr etholiad Arlywyddol ar Dachwedd 8, 2016. Cafodd Pence ei urddo’n Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Ionawr 20, 2017.
Bywyd cynnar
Ganwyd Pence yn Ysbyty Rhanbarthol Columbus yn Columbus, Indiana[6] un o chwech o blant Nancy Jane (g. Cawley) ac Edward J. Pence, Jr [7][8] ei deulu yn Ddemocratiaid Catholig Gwyddelig.[9]
Graddiodd Pence o Ysgol Uwchradd Gogledd Columbus ym 1977. Enillodd BA mewn Hanes o Goleg Hanover ym 1981 a JD o Ysgol y Gyfraith Robert H. McKinney o Brifysgol Indiana ym 1986.
Ar ôl graddio o ysgol gyfraith ym 1986, bu Pence yn gweithio fel atwrnai mewn practis preifat.[10] Parhaodd i ymarfer y cyfraith yn dilyn ei ail rediad aflwyddiannus i'r Gyngres.
Tŷ Cynrychiolwyr yr UDA (2001–2013)
Ym mis Tachwedd 2000, etholwyd Pence i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2il Ranbarth Cynghresol Indiana ar ôl i beriglor chwe blynedd David M. McIntosh (1995-2001) ddewis rhedeg am lywodraethwr Indiana.
Ar 8 Tachwedd, 2006, cyhoeddodd Pence ei ymgeisyddiaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Weriniaethol(arweinydd lleiafrifol) yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Canolbwyntiodd datganiad Pence, yn cyhoeddi ei rediad am arweinydd lleiafrifol, ar "ddychwelyd i werthoedd" Chwyldro Gweriniaethol 1994. Ar Dachwedd 17, collodd Pence i’r Cynrychiolydd John Boehner o Ohio trwy bleidlais 168–27–1 (aeth yr un bleidlais i’r Cynrychiolydd Joe Barton o Texas).[11]
Gwasanaethodd Pence am gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor Astudio Gweriniaethol. Roedd aseiniadau ei Bwyllgor yn Nhŷ’r UD yn cynnwys: Materion Tramor, Is-bwyllgor ar y Dwyrain Canol a De Asia (Is-gadeirydd); Barnwriaeth, Is-bwyllgor ar y Cyfansoddiad (Is-gadeirydd), ac Is-bwyllgor Eiddo Deallusol, Cystadleuaeth, a'r Rhyngrwyd .
Tra yn y Gyngres, roedd Pence yn perthyn i Cawcws y Tea Party.[12] Roedd Pence hefyd yn perthyn i'r Cawcws cynghresol a'r Rhyngrwyd, Cawcws Cadwraeth Ryngwladol, a Cawcws Chwaraewyr.
Ar ôl etholiad mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pence na fyddai’n rhedeg i’w ailethol yn Gadeirydd Cynhadledd y Gweriniaethwyr.[13] Ar 5 Mai 2011, cyhoeddodd Pence y byddai'n ceisio'r enwebiad Gweriniaethol ar gyfer Llywodraethwr Indiana yn 2012. [14][15]
Llywodraethwr Indiana (2013–2017)
Ar 6 Tachwedd 2012, enillodd Pence yr etholiad llywodraethol,[16] gan drechu'r enwebai Democrataidd John R. Gregg a'r enwebai Libertaraidd Rupert Boneham .
Daeth Pence yn 50fed Llywodraethwr Indiana ar 14 Ionawr 2013.
Gwnaeth Pence diwygio treth yn yr ardal, sef toriad cyfradd treth incwm o 10%, yn flaenoriaeth ar gyfer 2013.[17]
Ar 26 Mawrth 2015, llofnododd Pence Mesur Senedd Indiana 101, a elwir hefyd yn fil "gwrthwynebiadau crefyddol" Indiana (RFRA), yn gyfraith.[18] Cafodd llofnodi'r gyfraith ei feirniadu'n helaeth gan bobl a grwpiau a oedd yn teimlo bod y gyfraith wedi'i geirio'n ofalus mewn ffordd a fyddai'n caniatáu gwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT. [19][20]
Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth Pence ceisio'n aflwyddiannus i atal ffoaduriaid o Syria rhag cael eu hailsefydlu yn Indiana.[21]
Enwebiad is-arlywyddol 2016
Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd Trump fod tri o bobl ar ei restr fer: Chris Christie, Newt Gingrich a Pence ei hun. Ar 14 Gorffennaf 2016, adroddwyd bod Trump wedi dewis Pence fel ei phartner.[22] Ar 15 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Trump ar ei Twitter mai Pence fyddai ei phartner. Gwnaeth gyhoeddiad ffurfiol yn Ninas Efrog Newydd ar 16 Gorffennaf 2016.
Cafodd Pence ei urddo fel 48ain Is-Arywydd yr Unol Daleithiau ar ôl cael ei dyngu gan Clarence Thomas ar Ionawr 20, 2017.
Ar 27 Ionawr 2017, siaradodd Pence yn y March for Life yn Washington DC, gan ddod yn is-Arlywydd cyntaf a swyddog yr Unol Daleithiau ar y safle uchaf i siarad erioed yn y digwyddiad blynyddol. [23][24]
Ym mis Chwefror 2020, penodwyd Pence yn gadeirydd Tasglu Coronafirws y Tŷ Gwyn, a sefydlwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 yn yr Unol Daleithiau.[25]
Ymbellhawyd oddi wrth Trump ar ddiwedd ei dymor. Yn gyntaf wnaeth mynd i'r gyngres 6 Ionawr 2021 i ardystio canlyniadau etholiad 2020 o blaid y bleidlais ddemocrataidd i Joe Biden (enillydd), yn erbyn addewid yr Arlywydd Trump. Dywedodd ei fod yn rhaid iddo ddilyn y cyfansoddiad a dim gwrthdroi'r bleidlais. Daeth o dan fygythiad wrth ddweud hyn wrth i derfysgwyr oedd yn cefnogi Trump dorri i mewn i'r capitol wrth i'r ardystio digwydd, yn beth a elwir Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gludo i stafell ddiogel cyn i'r terfysgwyr achosi niwed. Ar ôl i'r heddlu a swyddogion diogelwch cael gafael yn y sefyllfa a gwneud y Capitol yn ddiogel parhawyd gan ardystio Biden fel arlywydd nesaf America.[26]
Fe wnaeth hefyd mynd i urddo Biden ar 20 Ionawr 2021 pan wnaeth Arlywydd Trump ddim hyd yn oed ystyried mynd i'r seremoni yn groes i draddodiad 150 mlynedd. Yn ogystal nid oedd Pence wedi mynd i seremoni diwedd Trump yn Joint Base Andrews.[27][28]
Bywyd personol
Mae Pence a'i wraig Karen Pence wedi bod yn briod ers 1985. Mae ganddynt dri o blant: Michael, Charlotte, ac Audrey. Mae Pence yn Gristion. Ma ei frawd, Greg, yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.