Mihangel Morgan
Mihangel Morgan |
---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1955 Trecynon |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | bardd, darlithydd |
---|
Cyflogwr | |
---|
Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955, Trecynon)[1] yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi.[2] Bu'n geinlythrennydd (caligrapher) yn Rhuthun, Sir Ddinbych ar ddechrau'r 80au ac mae bellach yn byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.
Daw'n wreiddiol o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddyn hoyw sy'n gwbl agored am ei rywioldeb.[3] Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
Gwobrau ac anrhydeddau
Llyfryddiaeth
- Diflaniad Fy Fi, cerddi (Cyhoeddiadau Barddas, 1988)
- Beth yw Rhif Ffôn Duw?, cerddi (Cyhoeddiadau Barddas, 1991
- Hen Lwybr a Storïau Eraill, straeon byrion (Gwasg Gomer, 1992)
- Dirgel Ddyn, nofel (Gwasg Gomer, 1993; ail-argraffiad Y Lolfa, 2006)
- Saith Pechod Marwol, straeon byrion (Y Lolfa, 1993)
- Te Gyda'r Frenhines, straeon byrion (Gwasg Gomer, 1994)
- Tair Ochr y Geiniog, straeon byrion (Gwasg Gomer, 1996)
- Llên y Llenor: Jane Edwards, astudiaeth academig (Gwasg Pantycelyn, 1997)
- Melog, nofel (Gwasg Gomer, 1997)
- Darllen Ffilmiau, astudiaeth academig (Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1998)
- Dan Gadarn Goncrit, nofel (Y Lolfa, 1999)
- Y Corff yn y Parc, straeon byrion (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
- Llên y Llenor: Caradog Prichard, astudiaeth academig (Gwasg Pantycelyn, 2000)
- Cathod a Chŵn, straeon byrion (Y Lolfa, 2000)
- Modrybedd Afradlon, stori fer ar gyfer dysgwyr (Gwasg Gomer, 2000)
- Creision Hud, cerddi i blant (Y Lolfa, 2001)
- Y Ddynes Ddirgel, nofel (Y Lolfa, 2001)
- Pan Oeddwn Fachgen, nofel (Y Lolfa, 2002)
- Croniclau Pentre Simon, nofel (Y Lolfa, 2003)
- Digon o Fwydod, cerddi i blant (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)
- Cestyll yn y Cymylau, nofel (Y Lolfa, 2007)
- Pantglas, nofel (Y Lolfa, 2011)
- Pygiana ac Obsesiynau Eraill, ysgrifau (Y Lolfa, 2013)
- Y Planhigyn, nofel i blant (Y Lolfa, 2014)
- Kate Roberts a'r Ystlum a Dirgelion Eraill, straeon byrion (Y Lolfa, 2012)
- 60, nofel (Y Lolfa, 2017)
- Hen Bethau Anghofiedig, stori ysbryd (Y Lolfa, 2017)
- Hen Ieithoedd Diflanedig, cerddi (Cyhoeddiadau Barddas, 2018)
Astudiaethau
- Rhiannon Marks, Y Dychymyg Ôl-fodern: Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
|