Mae Michael Spicer yn sgriptiwr comedi, actor, cyfarwyddwr sydd wedi ymddangos ar sawl cyfres deledu. Mae'n anabyddus am ei stetsys un-dyn ar y cyfryngau cymdeithasol fel Room Next Door.[1] Mae Spicer yn enghraifft o gomedïwr sydd wedi gallu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn datblygu ei yrfa yn annibynnol yn ogystal â thrwy'r cyfryngau prif-ffrwd.
Gyrfa
Mae wedi cynhyrchu dros 100 o sgetsys a ffilmiau byrion drwy YouTube a Twitter. Mae ei gyfres 'The Room Next Door' wedi derbyn 20 miliwn o wylwyr.[1] Mae hefyd wedi ysgrifennu a pherfformio ar amrywio o brosiectau comedi ar-lein ac ar gyfer Channel 4, Hat Trick a Comedy Central.
Yn dilyn ei fideos hunan-gynhyrchiol ar YouTube daeth Spicer yn gyfranwr cyson ar gyfer cyfres gomedi a dychan, The Mash Report ar BBC2. Mae hefyd wedi ymddangos ar gyfer ar-lein BBC3 yn 2016, Top Ten, yn ysgrifennu, perfformio a chyfarwyddwr Top Ten Job Interview Tips a sioe sgetsh, What is Music Videos? ar BBC iPlayer.
Mae hefyd wedi actio mewn sawl ffilm fer a chyfres ddrama deledu.[2]
Dolenni
Cyfeiriadau