Mae'r erthygl hon yn disgrifio y grym ar wrthrychau neu gyrff ffisegol.
Mecaneg (Groegμηχανική) yw'r rhan honno o wyddoniaeth sy'n ymwneud â gwrthrychau pan fo grym yn cael ei rhoi arnynt ac effaith y gwrthrychau hyn ar yr hyn sydd o'u cwmpas (eu hamgylchedd).
Ceir tarddiad y ddisgyblaeth hon yng Ngroeg yr Henfyd: yn sgwennu Aristotle ac Archimedes[1][2][3]. Yn y cyfnod modern, bu Omar Khayyam, Galileo, Johannes Kepler, ac Isaac Newton yn brysur yn gosod y seiliau gwyddonol i'r hyn a ddisgrifir heddiw fel "mecaneg glasurol". Dyma gangen o 'ffiseg glasurol' sy'n delio gyda gronynnau sefydlog neu symudol, ac sy'n symud gyda buanedd llawer llai na chyflymder golau. Gellir diffinio Mecaneg, felly, fel y gangen o wyddoniaeth sy'n ymwneud â symudiad ac effaith grymoedd ar wrthrychau.
↑Dugas, Rene. A History of Classical Mechanics. New York, NY: Dover Publications Inc, 1988, tud 19.
↑Rana, N.C., and Joag, P.S. Classical Mechanics. West Petal Nagar, New Delhi. Tata McGraw-Hill, 1991, pg 6.
↑Renn, J., Damerow, P., and McLaughlin, P. Aristotle, Archimedes, Euclid, and the Origin of Mechanics: The Perspective of Historical Epistemology. Berlin: Max Planck Institute for the History of Science, 2010, tt 1-2.