Matthew Rhys |
---|
|
Ganwyd | Matthew Rhys Evans 8 Tachwedd 1974 Caerdydd |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
---|
Priod | Keri Russell |
---|
Partner | Keri Russell |
---|
Gwobr/au | Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama |
---|
Actor o Gymru yw Matthew Rhys Evans sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw proffesiynol Matthew Rhys (ganwyd 8 Tachwedd 1974).[1][2] Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kevin Walker yn y ddrama deledu Americanaidd Brothers & Sisters, Phillip Jennings yn The Americans ac fel Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love.
Bywyd cynnar
Ganwyd Rhys yng Nghaerdydd, yn fab i Glyndwr, prifathro oedd yn hanu o Bennal, a'i wraig Helen, athrawes o Sir Benfro. Treuliodd ei blentyndod yn y brifddinas, yn mynychu ysgolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 17 mlwydd oed, ar ôl chwarae Elvis Presley mewn sioe gerdd yn yr ysgol, fe'i derbyniwyd i'r Royal Academy of Dramatic Art (RADA) yn Llundain. Wedyn, yn 1993 fe'i gwobrwywyd gydag ysgoloriaeth Patricia Rothermere. Mynychodd chwaer Rhys, Rachel, RADA ar yr un pryd ag ef, ac mae hi bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ddarlledu i'r BBC.
Ei gysylltiadau â Phatagonia
Yn y flwyddyn 2000, ymwelodd Rhys â Phatagonia er mwyn darganfod capeli Cymreig ac er mwyn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan drigolion y wlad.[3] Tra yno, cafodd afael ar gopi o ddyddiadur y Cymro John Murray Thomas a aeth i Batagonia ar ddiwedd y 19g wrth i nifer o Gymry allfudo i Batagonia. Yn 2005 dychwelodd Rhys i Batagonia am yr eildro ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad wrth ddisgynyddion y Rifleros i olrhain y daith a wnaed gan y Cymry flynyddoedd ynghynt.
Yn 2010, cyhoeddodd lyfr lluniau Patagonia: Croesi'r Paith yn seiliedig ar y profiad.
Bywyd personol
Am bron i ddeng mlynedd bu Matthew yn rhannu tŷ yn Llundain gyda'i gyd-actor Ioan Gruffudd,[4] a roedd yn was priodas iddo ym mhriodas Gruffudd..[5] Mae'r ddau yn noddwyr i Trust PA, elusen anafiadau i'r cefn.[6]
Ar 15 Gorffennaf 2008, urddwyd Matthew yn Gymrawd gan Brifysgol Aberystwyth.[7] Ar 8 Awst 2008 yn Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008, fe'i urddwyd yn aelod o'r Orsedd [8] am ei gyfraniad i'r Gymraeg a Chymru. Ei enw barddol yn yr Orsedd yw Matthew Tâf. Yn Awst 2009, ymddangosodd Matthew ar lwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol.[9]
Mae Matthew wedi bod mewn perthynas gyda Keri Russell, ei gyd-seren ar The Americans ers 2013.[10][11] Ganwyd eu plentyn cyntaf gyda'i gilydd ar ddiwedd Mai 2016.[12][13]
Ffilmyddiaeth
Film
Blwyddyn
|
Teitl
|
Rhan
|
Nodiadau
|
1999
|
Titus
|
Demetrius
|
|
1999
|
Whatever Happened to Harold Smith?
|
Ray Smith
|
|
2001
|
The Lost World
|
Edward Malone
|
|
2001
|
Very Annie Mary
|
Nob
|
|
2002
|
Deathwatch
|
Cpl. Doc Fairweather
|
|
2002
|
The Abduction Club
|
James Strang
|
|
2002
|
Shooters
|
Eddie
|
|
2003
|
P.O.W
|
Alfie Harris
|
|
2003
|
Columbo Likes the Nightlife
|
Justin Price
|
|
2003
|
Y Mabinogi
|
Lleu Llaw Gyffes
|
|
2004
|
Fakers
|
Nick Edwards
|
|
2006
|
Love and Other Disasters
|
Peter Simon
|
|
2006
|
Beau Brummell: This Charming Man
|
Lord Byron
|
|
2007
|
Virgin Territory
|
Count Dzerzhinsky
|
|
2008
|
The Edge of Love
|
Dylan Thomas
|
|
2009
|
The Think Tank
|
Marc
|
Ffilm fer
|
2010
|
Patagonia
|
Mateo
|
|
2011
|
Everything Carries Me To You
|
Damien
|
Ffilm fer
|
2012
|
The Scapegoat
|
John Standing/Johnny Spence
|
|
2015
|
En mai, fais ce qu'il te plait
|
Percy
|
|
2015
|
Burnt
|
Reece
|
|
2017
|
Jungle Book: Origins
|
John Lockwood
|
|
2019
|
A Beautiful Day in the Neighborhood
|
Lloyd Vogel
|
|
2019
|
The Report
|
Gohebydd gyda'r New York Times
|
|
Teledu
Blwyddyn
|
Teitl
|
Rhan
|
Nodiadau
|
2000
|
A History of Britain
|
N/A
|
Rhai penodau
|
2006–2011
|
Brothers & Sisters
|
Kevin Walker
|
109 pennod
|
2012
|
The Mystery of Edwin Drood
|
John Jasper
|
2 bennod
|
2013
|
Death Comes to Pemberley
|
Mr Darcy
|
3 pennod
|
2013–present
|
The Americans
|
Philip Jennings
|
39 pennod Enwebwyd— Gwobr Deledu "Critics' Choice" am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama (2013–15) Enwebwyd—Gwobr "Television Critics Association" am Gyflawniad Unigol mewn Drama(2013–15)
|
2015
|
The Bastard Executioner
|
Gruffudd y Blaidd
|
4 pennod
|
2015
|
Archer
|
Lloyd Llewellyn
|
Pennod: "Achub y Morfilod"
|
2015
|
The Bastard Executioner
|
Gruffudd y Blaidd / The Wolf
|
4 pennod
|
2016–2018
|
The Wine Show
|
Ei hun (cyd-gyflwyno)
|
|
2017
|
Girls
|
Chuck Palmer
|
Pennod: "American Bitch"
|
2017
|
Snowdonia 1890
|
N/A
|
|
2018
|
Down the Caravan
|
Dai
|
Ffilm deledu
|
2018
|
Death and Nightingales
|
Billy
|
3 pennod
|
2019
|
Infinity Train
|
Aloysius / Alrick (llais)
|
2 bennod
|
2019
|
BoJack Horseman
|
Justin Kenyon (llais)
|
Pennod: "A Quick One, While He's Away"
|
2019
|
Carpool Karaoke: The Series
|
Ei hun (cyd-gyflwyno)
|
Cyfres 2, pennod 17
|
2020
|
Perry Mason
|
Perry Mason
|
Hefyd yn gynhyrchydd gweithredol
|
Gwobrau ac enwebiadau
Blwyddyn
|
Gwobr
|
Categori
|
Gwaith enwebwyd
|
Canlyniadau
|
2013
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama
|
The Americans
|
Enwebwyd
|
Gwobr TCA
|
Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama
|
Enwebwyd
|
2014
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama
|
Enwebwyd
|
Gwobr TCA
|
Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama
|
Enwebwyd
|
2015
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama
|
Enwebwyd
|
Gwobr TCA
|
Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama
|
Enwebwyd
|
2016
|
Gwobr Primetime Emmy
|
Gwobr Primetime Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama
|
Enwebwyd
|
2017
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice
|
Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama
|
I'w benderfynu
|
Gwobr Satellite
|
Gwobr Satellite am Actor Gorau – Cyfres Ddrama Deledu
|
I'w benderfynu
|
2018
|
Gwobr Emmy
|
Gwobr Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama
|
Buddugol[14]
|
Cyfeiriadau